Cymorth a lles
Mae meddygaeth yn yrfa heriol - yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Rydyn ni yma i'ch cefnogi ar lefel bersonol, yn ogystal ag ar eich taith academaidd.
A chithau’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch gael cyngor, arweiniad a chymorth ar ystod eang o bynciau gan y tîm Bywyd Myfyrwyr. Gall yr Ysgol Meddygaeth hefyd roi cymorth penodol i chi.
Tiwtoriaid personol
Mae gan bob myfyriwr israddedig diwtor personol, a fydd yn cwrdd â chi'n rheolaidd a’ch cyfeirio chi at gymorth pellach os bydd ei angen arnoch. Dylech chi gysylltu â’ch tiwtor personol yn gyntaf o ran cefnogaeth academaidd, ond gallan nhw hefyd roi cyngor i chi ynglŷn â materion personol a lles. Rydyn ni’n argymell eich bod yn cwrdd â’ch tiwtor personol o leiaf unwaith pob tymor, ond mae modd i chi drefnu i gwrdd â nhw mor aml ag sydd ei angen arnoch chi.
My MEDIC
Mae My MEDIC yn wasanaeth cyfrinachol i fyfyrwyr yn yr Ysgol Meddygaeth sy'n ceisio cymorth ar gyfer materion sy'n effeithio ar eu lles, eu hastudiaethau neu eu gallu i fwynhau eu bywyd myfyrwyr.
Mae'r materion sy’n wynebu myfyrwyr yr un mor unigryw â’r myfyrwyr eu hunain, a'r rhan fwyaf o'r amser, mae siarad am bethau â rhywun proffesiynol yn gallu bod yn arbennig o ddefnyddiol. Mae My MEDIC wedi helpu myfyrwyr gyda rhai o’r materion canlynol dros y blynyddoedd, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) bryder arholiadau, sgiliau astudio, cydbwysedd bywyd-gwaith, straen, hwyliau neu hunanhyder isel, diffyg cymhelliant, materion iaith neu gyfathrebu, neu sefyllfaoedd sy'n effeithio ar fwynhad bywyd neu astudiaethau myfyrwyr, megis deinameg deuluol neu berthnasoedd.
Mae sawl ffordd i gyfeirio at y gwasanaeth My MEDIC - gan hunangyfeirio drwy lenwi ffurflen ar-lein, neu (gyda chaniatâd) gael eu cyfeirio at y gwasanaeth gan eu tiwtor personol, cyfarwyddwr y flwyddyn neu unrhyw aelod o staff sy’n teimlo y bydden nhw’n elwa o’r gwasanaeth hwn. Gall My MEDIC hefyd gyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cefnogi eraill y Brifysgol lle bo angen.
Fideo: Dewch i gwrdd ag Ella o Uned Datblygu Dysgu My MEDIC
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaeth My MEDIC ar eu tudalen Sway.
Cymorth pan fyddwch chi ar leoliad gwaith
Mae bod ar leoliad gwaith yn rhan allweddol o’r profiad dysgu a chithau’n fyfyriwr Meddygaeth. Erbyn eich trydedd flwyddyn, byddwch chi’n dysgu mewn cyfleusterau gofal iechyd ar hyd y wlad, gyda rhai lleoliadau gwaith lle byddwch chi’n astudio ac yn cwrdd â chleifion i ffwrdd o’r cartref. Mae gofalu am eich lles yn eithriadol o bwysig i ni tra rydych chi ar leoliad, ac felly bydd cymorth ar gael i chi gan staff cymorth ym mhob ysbyty dosbarth yng Nghymru, felly bydd rhywun ar gael i chi siarad â nhw bob amser, os bydd angen.
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau lles a’r gefnogaeth sydd ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, darllenwch ein tudalennau Iechyd a Lles.