Arloesedd a thechnoleg
Mae ein byd yn newid, ac felly hefyd y maes meddygaeth. Mae dilyn y dechnoleg ddiweddaraf yn ein helpu i hyfforddi meddygon gwell, a dyna pam rydyn ni’n buddsoddi mewn amgylcheddau addysgu a dysgu blaengar.
Rydyn ni wedi ychwanegu ystod o ddulliau addysgu digidol a thechnolegol at ein cwricwlwm, gan gynnwys defnyddio ystafell daflunio ymdrochol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae'r profiad 360 gradd hwn yn cyfuno sgriniau ymdrochol a thechnoleg sgrîn gyffwrdd i'ch galluogi i weld rhannau o'r corff yn fanwl iawn drwy addysgu grŵp bach neu ymarfer technegau meddygol mewn amgylcheddau efelychiadol.
Gwyliwch fideo am yr ystafell addysgu ymdrochol 360 gradd yma.
Rydyn ni’n defnyddio Realiti Rhithwir yn ein haddysgu, i roi golwg agosach i chi ar rai elfennau craidd o'n cwricwlwm, megis y gwyddorau sylfaenol, anatomeg a ffisioleg.

Wrth i'r dechnoleg ddatblygu, mae ein staff academaidd yn trin a thrafod offer dysgu megis efelychiadau AI i nodi sut y gellid defnyddio’r dechnoleg hon i ategu’r sgiliau clinigol rydych chi’n eu dysgu a'ch helpu i fagu hyder wrth drin eich cleifion.

Ymunwch â ni am addysg sy’n cynnig mynediad i ystod o adnoddau e-ddysgu, yn ogystal ag adnoddau ymdrochol ar-lein megis rhith-labordy y gallwch gerdded drwyddo, ac Ysbyty Rhithwir Cymru.
