Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau: Dr Grace McCutchan

Grace showcasing her research to members of the public
Grace showcasing her research to members of the public.

Hoffai Grace ddysgu pam y gallai pobl cymunedau difreintiedig ohirio ymweld â’r meddyg ynglŷn â sumptomau cancr a sut y gallwn ni eu hannog i fynd i’r feddygfa yn ddiymdroi.

Yr Ymchwil

Nod ymchwil Grace yw llunio ffyrdd o annog pobl sy’n amlygu sumptomau cancr i fynd at feddyg eu teulu yn ddiymdroi.

Rydyn ni’n gwybod y gallai pobl sy’n byw mewn cymuned ddifreintiedig fod yn gyndyn o fynd at y meddyg ynglŷn â sumptomau cancr. Oherwydd hynny, daw’r diagnosis yn hwyr a bydd yn anos trechu’r clefyd.

Yr Ymgysylltu

Y cynulleidfaoedd allweddol

Y cyhoedd (oedolion, pobl ifanc a phlant, y rhai sy’n ymweld â gwyliau).

Y mathau o ymgysylltu

Hysbysu ac addysgu’r cyhoedd ynglŷn â’r ymchwil seicogymdeithasol ddiweddaraf o ran atal canser a phennu diagnosis heb oedi.

Yn rhan o dîm ymchwil Gofal Canser Tenovus, treuliodd Grace bedwar diwrnod yng Ngardd Gwyddoniaeth Einstein yn ystod Gŵyl y Dyn Gwyrdd gan wahodd pobl i archwilio eu celloedd mewn cerbyd hufen iâ oedd wedi’i droi’n labordy symudol.

Mae Grace yn hoffi cymryd rhan yn niwrnodau agored Ymchwil i Ganser y DU lle y gall ddangos ymchwil ddiweddaraf y brifysgol ym maes cancr trwy gyfrwng gêmau megis ‘Facts, Myths and Legends’ i sbarduno sgyrsiau am yr ymchwil a chwalu mythau am gancr.

“Gall cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil gynnig safbwynt arall ac mae’n amhrisiadwy. Nid dim ond i dicio blwch y dylech chi ei gwneud."

Dr Grace McCutchan

Yr ymwneud

Y cynulleidfaoedd allweddol

Aelodau o’r cyhoedd a hoffai gymryd rhan mewn llunio a chynnal ymchwil.

Y mathau o ymwneud

Dau gynrychiolydd lleyg yn rhan o’r tîm astudio ar gyfer Astudiaeth Ymwybyddiaeth o Sumptomau ac Iechyd yr Ysgyfaint (LUSH). Cynnwys dau ‘bartner ymchwil’ lleyg yn thema ‘Cymunedau’ Canolfan Ymchwil i Ganser Cymru.

Ar gyfer astudiaeth LUSH, mae Grace wedi denu dau o bobl yn gynrychiolwyr lleyg. Maen nhw wedi cyflawni rôl allweddol trwy gymryd rhan flaengar yn yr astudiaeth gan gynnwys llunio deunyddiau astudio, gweithdrefnau denu, dehongli canfyddiadau, datblygu ffyrdd o gamu i mewn a chyfrannu i grynodebau lleygwyr, cyflwyniadau i gynadleddau a phapurau academaidd.

Mae’r ddau bartner ymchwil lleyg sy’n ymwneud â thema ‘Cymunedau’ Canolfan Ymchwil i Ganser Cymru wedi cynnig syniadau a chymorth ar gyfer astudiaethau yn yr adran.

Y Cymhelliant

Mae Grace o’r farn ei bod yn bwysig cynnal darlithiau ac achlysuron i roi gwybod i bobl am ymchwil barhaus, yn arbennig pan fo elusen yn ei noddi, fel y bydd deilliannau’n hysbys i’r rhai sydd wedi ariannu’r ymchwil trwy eu rhoddion.

Ynglŷn â chynnwys y cyhoedd yn yr ymchwil, mae Grace o’r farn bod cyfraniadau lleygwyr yn hynod o werthfawr.

“Yn ddiweddar, cyflawnodd cynrychiolydd lleyg rôl bwysig wrth lunio ffordd o godi ymwybyddiaeth o gancr yn y gymuned. Fe wnaeth hynny trwy helpu i fformadu, geirio ac adlunio gorchwylion gan gynnig rhai awgrymiadau defnyddiol iawn am gynnal y sesiwn. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn am ei chymorth a’i chynghorion.”

“Trwy allu cyfleu ymchwil mewn ffordd dderbyniol a diddorol i gynulleidfa nad ydynt yn academaidd, rwy’n meddwl yn wahanol am sut mae cyflwyno fy ymchwil ac mae fy medrau cyflwyno yn well.”

Dr Grace McCutchan

Y Datblygu Proffesiynol

Ar wahân i’r manteision proffesiynol ynghylch ymgysylltu â phobl a rhoi gwybod iddyn nhw am ei hymchwil, mae Grace o’r farn bod ei medrau cyfathrebu a chyflwyno wedi gwella o ganlyniad i’w gwaith ymgysylltu.

“Trwy allu cyfleu ymchwil mewn ffordd dderbyniol a diddorol i gynulleidfa nad ydynt yn academaidd, rwy’n meddwl yn wahanol am sut mae cyflwyno fy ymchwil ac mae fy medrau cyflwyno yn well.”

Y Dysgu

Mae Grace o’r farn bod anghenion y cyhoedd yn eglurach iddi yn sgîl gweithgareddau ymgysylltu a chynnwys.

“Ar y cyfan, mae gwir ddiddordeb gan bobl mewn ymchwil ond, yn aml, dydyn nhw ddim yn siŵr sut i ddysgu rhagor am ymchwil barhaus a gorffenedig. Felly, mae cyfleoedd i ymgysylltu yn bwysig iawn. Ynglŷn â chynnwys pobl, mae sawl peth yn gallu eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn ymchwil ac, felly, rhaid inni ddyfeisio ffyrdd o gynnig cyfleoedd iddyn nhw.”

Dyma fersiwn fyrrach o'r astudiaeth achos lawn.

Darllenwch yr astudiaeth achos lawn

Dr Grace McCutchan - public engagement case study

View Dr Grace McCutchan's public engagement case study.

Cysylltwch ag Grace am ei brofiadau

Dr Grace McCutchan

Dr Grace McCutchan

Research Associate

Email
mccutchangm@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7639