Ewch i’r prif gynnwys

Llythyr i'r Arglwydd Mann o'r Dirprwy Is-Ganghellor - 19.5.2021

Annwyl Arglwydd Mann

Ysgrifennaf atoch yn dilyn y llythyr a anfonais ar 15 Mawrth 2021 i’ch diweddaru ynghylch sut mae Prifysgol Caerdydd yn ystyried mabwysiadu diffiniad gweithredol IHRA o wrth-semitiaeth.

Fe gofiwch bod Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd wedi argymell mabwysiadu'r diffiniad hwn ynghyd â'r eglurhad ychwanegol a gynigiwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref (HASC) yn 2016. Mae ein prosesau llywodraethu yn mynnu bod pwyllgorau priodol y Brifysgol yn trafod ac yn ystyried materion pwysig fel y rhain.

Ym mis Chwefror, fe ystyriodd y Senedd a ddylid mabwysiadu diffiniad IHRA o wrth-semitiaeth, yn ogystal â diffiniad Grŵp Seneddol Hollbleidiol Mwslimiaid Prydain o Islamoffobia. Gan gydnabod y gall mabwysiadu diffiniadau penodol - hyd yn oed y rhai a gefnogir ar draws y sector - greu aneglurder mewn perthynas â'r union grwpiau y mae diffiniadau o'r fath yn ceisio eu gwarchod, argymhellodd y Senedd y dylem oedi a thrafod y mater hwn ymhellach.

Felly, aethpwyd ati fel sy’n briodol i gael barn Cyngor y Brifysgol ynglŷn â'r mater. Ystyriodd y Cyngor y mater yn drylwyr. Cytunodd â'r pwyntiau a wnaethpwyd yn y Senedd, a daeth i'r casgliad y gallai mabwysiadu diffiniadau dethol o grefydd neu hil benodol roi’r argraff anffodus eu bod yn eithrio grwpiau ffydd neu hiliau eraill nad oes diffiniadau wedi cael eu mabwysiadu ar eu cyfer. Osgoi sefyllfa a allai achosi gwrthdaro o’r fath oedd y brif ystyriaeth y tu ôl i benderfyniad y Cyngor i beidio â mabwysiadu'r naill ddiffiniad. Ar ben hynny, roedd y Cyngor yn glir bod polisïau presennol y Brifysgol, sy’n rhan o fframweithiau deddfwriaethol ehangach, yn gadarn.

Mae’r Brifysgol yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu ein holl fyfyrwyr a staff ni waeth beth fo'u crefydd, hil neu gred. Rydym yn mynd i’r afael â phob math o wahaniaethu a hiliaeth, ac yn addo parhau i werthuso effeithiolrwydd y polisïau hynny yn ofalus.

Mae'r Brifysgol eisoes yn cyfeirio at ddiffiniad IHRA mewn canllawiau ar fewnrwyd y staff a’r myfyrwyr ynghylch polisi’r sefydliad ar gyfer Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio, ac mae gwrth-semitiaeth wedi'i nodi'n benodol yn y canllawiau hyn fel ymddygiad cwbl annerbyniol. Mae ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau’n rhoi cefnogaeth arbenigol i unrhyw fyfyriwr sy'n profi troseddau casineb, gan gynnwys y rhai ar sail crefydd, ac rydym yn mynd ati i atgoffa myfyrwyr yn rheolaidd bod y gwasanaeth hwn ar gael ar eu cyfer.

Yn gywir

Yr Athro Karen Holford

Dirprwy Is-Ganghellor

___________________________________

Llythyr i'r Arglwydd Mann - 15 Mawrth 2021

Annwyl Arglwydd Mann

Ysgrifennaf atoch yn dilyn y llythyr a anfonais ar 8 Rhagfyr yn ymateb i’r cyhoeddiad bod Prifysgol Caerdydd yn ystyried mabwysiadu diffiniad gweithredol IHRA o wrthsemitiaeth.

Fe gofiwch bod ein Is-Ganghellor wedi argymell mabwysiadu'r diffiniad hwn ynghyd â'r eglurhad ychwanegol a gynigiwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref (HASC) yn 2016.

Cynhaliwyd trafodaethau gwerthfawr yn ein Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, yr wyf yn ei gadeirio. Rydym hefyd wedi mapio diffiniad yr IHRA yn erbyn ein polisïau presennol ac wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.

Fel rhan o’n proses lywodraethu, mae’n rhaid i’n Cyngor Prifysgol gymeradwyo mabwysiadu’r diffiniad rhaid i’r Senedd ei ystyried hefyd. Yn ddiweddar, ystyriodd y Senedd fabwysiadu diffiniad IHRA (ochr yn ochr ag eglurhad HASC) a diffiniad APPG o Islamoffobia. Gan gydnabod bod y diffiniadau hyn yn codi materion cymhleth a sylweddol, argymhellodd y Senedd y dylem oedi am y tro a chynnal trafodaethau pellach ar y mater hwn. Rydym wedi penderfynu ar y pwynt hwn i ofyn am gyngor a syniadau Cyngor y Brifysgol yn y cyfarfod ym mis Ebrill ac yna dylem fod mewn sefyllfa i'ch cynghori ynghylch y camau nesaf.

Fel yr amlinellwyd yn fy llythyr blaenorol, mae'r Brifysgol eisoes yn cyfeirio at ddiffiniad yr IHRA mewn canllawiau ar fewnrwyd y staff a’r myfyrwyr ynghylch polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio’r sefydliad, lle mae gwrthsemitiaeth wedi'i nodi'n benodol fel ymddygiad sy'n gwbl annerbyniol. Mae ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau’n darparu cefnogaeth arbenigol i unrhyw fyfyriwr sy'n profi troseddau casineb, gan gynnwys y rhai ar sail crefydd, ac rydym yn mynd ati i atgoffa myfyrwyr bod y gwasanaeth hwn ar gael iddynt yn rheolaidd.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau cydraddoldeb i bob aelod o'n cymuned.

Byddaf yn ysgrifennu atoch eto yn dilyn y cyfnod trafod pellach y cyfeiriwyd ato uchod.

Yr eiddoch yn gywir

Yr Athro Karen Holford

Dirprwy Is-Ganghellor

___________________________________

Llythyr i'r Arglwydd Mann - 8 Rhagfyr 2020

Annwyl Arglwydd Mann

Diolch am eich llythyr dyddiedig 18 Tachwedd 2020.

Fi yw Dirprwy Is-Ganghellor a Chadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwyf wedi cael copi o'ch llythyr i'w ystyried.

Rydym yn edrych ymlaen at eich “cyhoeddiad mawr” yn ddiweddarach y mis hwn ar fabwysiadu a defnyddio diffiniad gweithio IHRA o wrthsemitiaeth. Rydym yn falch o gadarnhau y bydd yr Is-Ganghellor yn argymell mabwysiadu'r diffiniad hwn ynghyd â'r eglurhad ychwanegol a gynigiwyd gan y Pwyllgor Dethol Materion Cartref yn 2016 yng nghyfarfodydd nesaf y Senedd a'r Cyngor ar 24 Chwefror 2021 a 5 Chwefror 2021. Rydym hefyd yn ddiolchgar i chi am eich cadarnhad yn eitem (b) yn eich llythyr.

Rydym yn cytuno bod gan brifysgolion ran bwysig i'w chwarae wrth ddarparu cydraddoldeb ar y campws i fyfyrwyr a staff, ac rydym yn gweithio gydag ymrwymiad a phenderfyniad er mwyn cyflawni hyn. Yn hyn o beth, rwyf wedi penodi Uwch Gynghorydd Cydymffurfiaeth sy'n ymroddedig i Hil, Crefydd a Chred ac maent yn arwain ar y Panel Goruchwylio Cydraddoldeb Hiliol fel y gwelir yng nghanllaw Adnoddau UUK. Mae fersiwn gyfredol polisi Crefydd a Chred y Brifysgol hefyd yn cynnwys cyfeiriad at yr IHRA.

Pan adolygwyd polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio y Brifysgol, gofynnodd adborth gan Undeb y Myfyrwyr am arweiniad ychwanegol yn rhoi enghreifftiau o'r mathau o ymddygiad na fyddai'n dderbyniol o dan y polisi ac roedd hyn yn cynnwys gwrthsemitiaeth. I'r perwyl hwnnw, rydym wedi datblygu adran ar dudalennau mewnrwyd Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio myfyrwyr a staff gan gydnabod diffiniad yr IHRA. Rydym wedi ailddatgan y neges y byddai gweithredoedd o wahaniaethu, aflonyddu neu fwlio ar sail cefndir Iddewig canfyddedig neu wirioneddol unigolyn yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn cael eu hymchwilio o dan weithdrefnau'r Brifysgol. Gwnaethom hefyd achub ar y cyfle i gynghori myfyrwyr sy'n profi troseddau casineb ar sail crefydd i ddarparu adroddiadau i'r Tîm Ymateb Datgelu a cheisio cefnogaeth ganddynt.

Rydym hefyd yn darparu gofal bugeiliol pwrpasol i'n myfyrwyr Iddewig pe baent yn profi gwrthsemitiaeth. Yn hyn o beth, mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu gwasanaeth Caplaniaeth anenwadol sy'n darparu:

* mynediad i Gaplan Iddewig trwy atgyfeiriad gan ein Caplaniaid eraill. Mae ein Caplan Iddewig mewn cysylltiad rheolaidd â'r Gymdeithas Myfyrwyr Iddewig

* addoli a gweddïo cymunedol

* digwyddiadau cymdeithasol i gwrdd â ffrindiau newydd

* cyfleoedd i drafod ffydd grefyddol a chyfiawnderau cymdeithasol

* gwasanaeth bugeiliol cyfrinachol sy’n cynnig clust i wrando

* mannau tawel ar gyfer gweddïo neu fyfyrio personol

* darlithoedd a thrafodaethau i hwyluso ac annog dysgu academaidd mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys diwinyddiaeth, astudiaethau crefyddol, moeseg ac athroniaeth

* gwybodaeth am gymunedau ffydd lleol a lleoedd digwyddiadau addoli rhyng-ffydd i annog deialog rhwng aelodau o wahanol grefyddau

Byddwn yn ysgrifennu atoch eto yn dilyn y cyfarfodydd y cyfeiriwyd atynt uchod.

Yn gywir

Yr Athro Karen Holford

Dirprwy Is-Ganghellor