Rhwyllau diogelwch
Mae unrhyw awgrym bod Prifysgol Caerdydd wedi codi'r rhwyllau diogelwch i atal pobl ddigartref yn gwbl anghywir ac yn gwbl gamarweiniol.
Cymerwyd y penderfyniad i godi rhwyllau er lles iechyd a diogelwch.
Nid fentiau aer poeth yw'r ardal a gwmpesir gan y rhwyllau diogelwch ond fentiau ffliw y boeler a all o bosibl gynhyrchu cynnyrch o hylosgiad – un o'r rhain yw cyfansymiau gwan o garbon monocsid - fel rhan o nwyon ffliw y boeler wedi eu gwanhau.
Y ddwy fent dan sylw yw'r rhai sy'n gwanhau ffliw y boeler a mewnlif cymeriant aer a'r rhwyllau sy'n distyllu. Mae'r fentiau hyn yn cael eu hystyried yn ddiogel o fewn defnydd arferol oherwydd y math o system gwanhau ffliw a ddefnyddir, ond gallai o bosibl fod perygl cynyddol os yw pobl yn cysgu yn union gerllaw'r rhwyllau am gyfnodau hir iawn.
Mae'r Brifysgol wedi bod yn gweithio gyda diogelwch i leihau'r risg posibl hyn i bobl sy'n cysgu yn union o flaen allfa ffliw y boeler ac, er lles iechyd a diogelwch, penderfynwyd gosod set o rwyllau diogelwch.
Mae'r rhwyllau diogelwch hyn yn caniatáu i hyd yn oed fwy o drylediad awyr na'r hyn sy'n ofynnol fel rheol, ac felly yn lleihau ymhellach unrhyw risgiau i unrhyw un a allai ddewis cysgu yn y cyffiniau hyn.
Yn ogystal â'r risg canfyddadwy o ran cysgu gerllaw'r rhain mae yna hefyd fwy o risg i adeiladau cyfagos o ganlyniad i fewnlif aer a'r allanfeydd yn blocio.
Gallai hyn achosi problemau i'r awyr cyflenwi sy'n dod i mewn, gan effeithio ar ein hamgylcheddau a reolir sydd angen rhedeg dros gyfnod o 24 awr ac o bosibl achosi croniad o nwyon a gwres ar lawr isaf yr adeilad cyfagos.
Y cyfuniad o risg i'n gweithgareddau ymchwil a'n haddysgu a arweiniodd y Brifysgol i gymryd camau i fynd i'r afael â'r risg.
Ni allai Prifysgol Caerdydd dderbyn y risg hwn i'r digartref neu i staff a myfyrwyr.