Ewch i’r prif gynnwys

Canlyniad ymchwiliad y Brifysgol i fewn i'r digwyddiad Fferiau P & O

Mae Prifysgol Caerdydd a chlwb rygbi Meddygon Caerdydd wedi uno mewn ymgais i sicrhau na fydd chwaraewyr yn ymddwyn yn feddw ac yn wrthgymdeithasol yn y dyfodol. 

Mae'r addewid hwn yn dilyn ymchwiliad i ymddygiad meddw nifer fach o fyfyrwyr meddygaeth y Brifysgol ar fferi ar draws y sianel.

Ni ddaeth yr ymchwiliad o hyd i unrhyw dystiolaeth i brofi'r honiad bod myfyriwr wedi gwneud dŵr ar fwrdd o flaen aelodau o'r cyhoedd.

Fodd bynnag, daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod un myfyriwr wedi gwneud dŵr ar y fferi. Yn ogystal, roedd rhai o aelodau clwb rygbi Meddygon Caerdydd wedi ymddwyn yn annerbyniol, gan ymddwyn yn feddw, yn sarhaus ac yn uchel eu cloch. Roedd rhai wedi defnyddio iaith fudr a sarhaus, sy'n debygol o gael ei hystyried yn fygythiol gan gyd-deithwyr. 

O ganlyniad, mae ffigurau allweddol o glwb rygbi Meddygon Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, yr Ysgol Meddygaeth ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi dod at ei gilydd i gondemnio ymddygiad nifer fach o aelodau'r tîm, a chefnogi mesurau i newid y diwylliant drwy fynd i'r afael â'r hyn sydd wrth wraidd yr ymddygiad.

Dywedodd Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, yr Athro Patricia Price: "Mae'r mwyafrif helaeth o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn mynd allan ac yn mwynhau eu hunain, ac yn gwybod pryd i dynnu'r llinell. Mae llawer o'n myfyrwyr yn fabolgampwyr ymroddedig a thalentog, heb unrhyw ddiddordeb mewn yfed yn drwm.

"Mae'n anffodus i'r digwyddiad hwn bardduo enw da y rhan fwyaf o'n myfyrwyr, a nifer fach o'n myfyrwyr meddygaeth yn benodol.

"Mae'r ymchwiliadau trylwyr a'r sancsiynau llym yn gymesur ac yn anfon neges glir iawn at ein myfyrwyr meddygaeth, a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gyffredinol, na fydd y Brifysgol yn goddef y math hwn o ymddygiad.

"Os bydd unrhyw fyfyriwr yn croesi'r llinell, byddwn yn ymchwilio ac yn gweithredu."

Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar ran clwb rygbi Meddygon Caerdydd, roedd y Llywydd, Dr Ian Harris, yn ymddiheuro i'r unigolion a'r sefydliadau y mae ymddygiad aelodau unigol o'r tîm wedi effeithio arnynt, ac yn mynnu "nad ydynt yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol gan eu haelodau, a bod y clwb yn benderfynol o sicrhau na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol o'r fath yn digwydd eto".

O ganlyniad i'r digwyddiad, mae clwb rygbi Meddygon Caerdydd hefyd yn cefnogi cyfres o sancsiynau llym yn erbyn y rheini dan sylw, ac mae wedi ymrwymo i gefnogi'r mesurau sydd wedi'u llunio i sicrhau newid hirdymor yn y diwylliant, i atal digwyddiad o'r fath yn y dyfodol.

Mae'r sancsiynau'n cynnwys: gwahardd holl deithiau clwb rygbi Meddygon Caerdydd yn y dyfodol, nes gellir adfer hyder ac ymddiriedaeth; canslo gêm y cynfyfyrwyr; gwahardd myfyrwyr presennol rhag mynd i ginio blynyddol y tîm ar gyfer cynfyfyrwyr; ei gwneud yn ofynnol i'r holl fyfyrwyr dan sylw gymryd rhan mewn cyfres o weithdai proffesiynoldeb yn eu hamser eu hunain (gyda'r nos ac ar benwythnosau); a newid delwedd y tîm yn llwyr, gan gynnwys digwyddiadau codi arian i elusennau a digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar y gymuned, er mwyn ail-sefydlu enw da'r tîm yn y Brifysgol ac yn yr Ysgol Meddygaeth. 

Ychwanegodd yr Athro Bligh, Deon Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "O ystyried mai diwylliant o yfed trwm sydd wrth wraidd yr ymddygiad hwn, mae'n annheg cosbi myfyrwyr unigol y tu hwnt i'r hyn sydd wedi'i argymell.

"Mae rhai aelodau wedi torri rheolau ymddygiad derbyniol ac wedi ymddwyn yn wrthgymdeithasol.

"Mae'r digwyddiad hwn wedi achosi straen amlwg i aelodau o'r cyhoedd, staff P&O a niwed difrifol i enw da'r Brifysgol a'r Ysgol Meddygaeth. Nid yw hyn yn dderbyniol ac ni chaiff ei oddef.

"Gellir datrys y broblem hon wrth i bawb dan sylw gymryd camau gweithredu pwrpasol, ar y cyd.

"Dyma pam yr wyf yn falch bod Prifysgol Caerdydd, yr Ysgol Meddygaeth, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a chlwb rygbi Meddygon Caerdydd i gyd wedi ymrwymo at ein sancsiynau llym ac wedi addo dod â diwylliant yfed tîm rygbi'r myfyrwyr meddygaeth i ben. 

"Mae'n rhaid i bethau newid. Os bydd digwyddiad o'r fath yn y dyfodol, ni fydd dewis gennym ond ystyried mesurau mwy llym.

"Mae clwb rygbi Meddygon Caerdydd yn glwb balch. Mae nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru wedi dod o'r clwb, a gellir dadlau mai dyma'r tîm rygbi Ysgol Meddygaeth sydd wedi bod yn fwyaf llwyddiannus yn y DU dros y 25 mlynedd diwethaf.

"Mae'r digwyddiad hwn wedi tanseilio'r enw da hwn, a gyda'n gilydd, rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y tîm yn gweithredu'n gydlynol, gyda hunaniaeth a balchder, yn ein Hysgol Meddygaeth ac yn gyhoeddus yng Nghymru."

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cefnogi'r camau a gymerwyd gan y Brifysgol a chlwb rygbi Meddygon Caerdydd wrth ymateb i'r digwyddiad hwn, a bydd yn ceisio rhoi cefnogaeth ychwanegol i'r clwb rygbi, yn ogystal â holl glybiau chwaraeon eraill y Brifysgol, o ran sicrhau bod myfyrwyr yn deall eu cyfrifoldebau a'r safonau ymddygiad a ddisgwylir ganddynt. 

Nodiadau

Datganiad llawn clwb rygbi Meddygon Caerdydd. 

Datganiad ar ran clwb rygbi Meddygon Caerdydd

Dymuna swyddogion clwb rygbi Meddygon Caerdydd ymddiheuro'n ddiffuant i'r unigolion a'r sefydliadau y mae ymddygiad aelodau unigol o'r tîm yn ystod taith dramor ddiweddar wedi effeithio arnynt.  Rydym yn cydnabod bod ymddygiad rhai o aelodau'r tîm a oedd ar daith yn amhriodol ac yn gwbl annerbyniol.  Ymddiheurwn am hyn.

Nid yw clwb rygbi Meddygon Caerdydd yn goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol gan ei aelodau, ac mae'r clwb yn benderfynol o sicrhau na fydd ymddygiad o'r fath yn digwydd eto. 

Mae'r clwb wedi cytuno i gyfres o sancsiynau ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, gan gynnwys sesiynau addysg i chwaraewyr, yn ogystal â gweithdai proffesiynoldeb. Mae'r daith arfaethedig ar gyfer y tymor sydd i ddod wedi'i chanslo. Mae'r Pwyllgor Gweithredol wedi canslo'r gêm flynyddol rhwng myfyrwyr a chynfyfyrwyr eleni hefyd, ac mae'r myfyrwyr wedi'u gwahardd rhag mynd i ginio blynyddol clwb rygbi Meddygon Caerdydd i fyfyrwyr a chynfyfyrwyr.  Mae'r rhain yn sancsiynau arwyddocaol a fydd yn effeithio ar aelodaeth ehangach y clwb, yn ogystal â'r rheini sy'n gyfrifol.  Serch hynny, mae'r Swyddogion a'r Pwyllgor Gweithredol yn gwbl gytûn â'r sancsiynau hyn. 

Mae holl aelodau'r clwb bellach yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau wrth gynrychioli clwb rygbi Meddygon Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd, ac yn deall y sancsiynau llym a fydd yn eu hwynebu, gan y clwb a'r Brifysgol, yn achos digwyddiad o'r fath yn y dyfodol. 

Mae clwb rygbi Meddygon Caerdydd yn glwb balch. Mae'r clwb yn bodoli ers dros 108 o flynyddoedd; mae nifer o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru wedi dod o'r clwb, a dyma'r tîm rygbi Ysgol Meddygaeth sydd wedi bod yn fwyaf llwyddiannus yn y DU dros y 25 mlynedd diwethaf. Rydym yn gweithredu'n gydlynol gyda hunaniaeth a balchder o fewn yr Ysgol Meddygol.  Ers uno Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae clwb rygbi Meddygon Caerdydd yn cystadlu yng nghystadlaethau cenedlaethol Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), yn dilyn cytundeb a sicrwydd gan Brifysgol Caerdydd. Rydym yn aml yn mwynhau ymgyrch lwyddiannus yng nghystadleuaeth BUCS, er mai dim ond dewis gweddol fach o chwaraewyr sydd gennym.  Rydym wedi bod yn aelod llawn o Undeb Rygbi Cymru ers 1946.  

Mae gan glwb rygbi Meddygon Caerdydd rwydwaith mawr a ffyddlon o gynfyfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y gwaith o redeg y clwb, yn ogystal â chefnogi'r clwb.  Mae'r rhwydwaith bywiog hwn o unigolion dylanwadol ac uchel eu proffil yn y byd gofal iechyd, yng Nghymru a thu hwnt, wedi ymrwymo i gynyddu eu gwaith mentora a gwella eu cefnogaeth ar gyfer y genhedlaeth bresennol o chwaraewyr. Mae'r clwb a'r cynfyfyrwyr yn dymuno gwneud yn siŵr mai llwyddiant ar y cae ac oddi arno yw'r unig beth i ni gael ein cydnabod amdano yn y dyfodol.  I'r perwyl hwn, bydd chwaraewyr presennol y clwb, a chynfyfyrwyr, yn ymgymryd â gwaith elusennol ar y cyd yn ystod tymor 2015-16. 

Mae clwb rygbi Meddygon Caerdydd wedi ymrwymo i ddysgu o ddigwyddiadau diweddar, ac yn cytuno â'r camau a gymerwyd gan Brifysgol Caerdydd yn y mater hwn. Mae'r clwb cyfan yn benderfynol o gefnogi ein cenhedlaeth bresennol o aelodau i aeddfedu fel unigolion, ac ymddwyn fel llysgenhadon cyfrifol ar gyfer clwb rygbi Meddygon Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Chymru, a chyflawni rhagoriaeth yn academaidd ac ym maes chwaraeon ar y lefel uchaf.