Ysgol y Dyniaethau Byd-eang
Linelliad gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner, ar sut y datblygwyd y cynnig amgen hwn, a’r hyn y mae'n ei olygu.
Annwyl gydweithiwr
Rwyf yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (y Bwrdd) bellach wedi cymeradwyo cynnig amgen ar gyfer Ysgol y Dyniaethau Byd-eang. Caiff y cynnig hwnnw ei gyflwyno i Gyngor y Brifysgol ar 17 Mehefin i'w gymeradwyo yn rhan o'r broses 'Ein Dyfodol Academaidd'.
Crëwyd y cynnig amgen a gymeradwywyd gan y Bwrdd drwy gydweithio rhwng Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a phum Pennaeth Ysgolion disgyblaethau’r celfyddydau a'r dyniaethau. Roedd yn destun mewnbwn gan bedwar cynnig amgen a ddatblygwyd gan staff a fu’n gweithio’n galed i gyflwyno syniadau da mewn perthynas â dyfodol darpariaeth cerddoriaeth ac ieithoedd modern yng Nghaerdydd.
Gallaf gadarnhau, os bydd y Cyngor yn cymeradwyo ein cynlluniau, y byddwn yn parhau i gynnig ymchwil ac addysg ieithoedd modern a cherddoriaeth yn y Brifysgol, er y bydd strwythurau diwygiedig yn rhan o Ysgol newydd y Dyniaethau Byd-eang.
Bydd yr ysgol newydd hon yn:
- parhau i gynnig rhaglenni gradd Cerddoriaeth israddedig ac ôl-raddedig, ond caiff y targedau mynediad a chynnwys eu diwygio
- parhau i gynnig rhaglenni Ieithoedd Modern ond i garfanau llai, ac yn bennaf mewn Ffrangeg, Sbaeneg, Mandarineg a Siapanaeg
- ceisio ehangu darpariaeth gradd Cyfieithu
- parhau i gynnig Ieithoedd i Bawb a bydd yr ieithoedd a gynigir yno yn dibynnu ar alw’r myfyrwyr
- datblygu cyfres newydd o raglenni gradd i gyflawni uchelgais yr Ysgol newydd fydd yn canolbwyntio ar heriau, yn gynhwysol, yn cael ei greu ar y cyd ac yn ymrwymedig i hyrwyddo agenda'r Dyniaethau Cyhoeddus.
Wedi ystyried yr achos yn ofalus iawn, rydym wedi penderfynu parhau â’r cynnig gwreiddiol i roi’r gorau i raddau anrhydedd sengl a chydanrhydedd a enwir mewn Hanes yr Henfyd, a Chrefydd a Diwinyddiaeth. Rwyf yn deall y bydd yn newyddion siomedig iawn i'r holl academyddion sydd wedi ymrwymo'n ddwfn i'r disgyblaethau hyn. Byddwn wrth reswm yn parhau i gynnig ein set bresennol o raglenni gradd ar gyfer 2025-26 ac rydym wedi ymrwymo i addysgu pob myfyriwr fydd yn dechrau fis Medi nesaf hyd nes iddynt gwblhau eu gradd yn y pynciau hyn.
Hoffwn ddiolch i bawb ohonoch sydd wedi rhoi adborth ar y celfyddydau a'r dyniaethau, wedi cyfrannu at weithdai a sesiynau adborth ac wedi cyflwyno cynigion amgen. Mae'r mewnbwn hwn wedi bod yn allweddol o ran llunio’r cynigion hyn. Rwyf hefyd eisiau cydnabod bod prosiect Dyfodol Academaidd wedi arwain at gryn pryder i lawer ohonoch, a gobeithiaf fod y cyhoeddiad heddiw yn cynnig rhywfaint o sicrwydd. Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i wireddu uchelgais yr Ysgol newydd hon, a gobeithio y byddwch o’r farn y gallwch chwarae rhan ynddi.
Bydd gweminar ddydd Mawrth nesaf (3 Mehefin) yn rhoi rhagor o fanylion am yr Ysgol newydd. I'r rheini na fyddant yn gallu mynychu, bydd recordiad yn Blas ar 4 Mehefin.
Cofion gorau
Wendy, Is-Ganghellor