Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad proffesiynol

Gain a deeper understanding of statistics, operational research or financial risk by continuing your professional development while working.

MATHS Abacws Professional Development

Meddwch ar ddealltwriaeth ddyfnach o ystadegaeth, ymchwil weithrediadol neu risg ariannol drwy barhau â'ch datblygiad proffesiynol wrth weithio.

Mae modd astudio ein modiwlau ôl-raddedig a addysgir yn unigol. Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr sy'n dewis yr opsiwn hwn yn parhau i weithio'n amser llawn a chaiff llawer ohonynt eu hariannu gan eu cyflogwyr.

Dadansoddi Data i’r Llywodraeth (MSc)

Mae'n bleser gennym gynnig pedwar modiwl craidd o MSc Dadansoddi Data i’r Llywodraeth, sydd ar gael i astudio ar sail unigol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (CPD).

Rydym wedi datblygu'r rhaglen hon ar y cyd â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’r modiwlau ar gael i weithwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol a chyrff y sector cyhoeddus yn y DU yn unig.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr amserlen, y ffioedd a'r gofynion mynediad.

Joanna Emery

Joanna Emery

Knowledge Transfer Officer

Email
emeryjl4@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0851