Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae ein hymchwil wedi newid bywydau pobl sy'n marw ac mewn profedigaeth.

Professor Annmarie Nelson

Ein Nodau

Rydym yn datblygu a chefnogi ymchwil sydd wedi'i dylunio'n dda ac yn cynnal astudiaethau ymarferol fydd yn arwain at roi gwell ofal lliniarol i’r cleifion hynny a’r rheiny ar ddiwedd eu hoes.

Ein nod yw:

  • Gwella sut olwg sydd ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes sy’n canolbwyntio ar y claf a sut mae’n cael ei ddarparu
  • Gwella’r ddealltwriaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i deulu, ffrindiau a gofalwyr trwy gydol eu profiad o farw marwolaeth a phrofedigaeth
  • Gwella dealltwriaeth ac ymgysylltiad cymdeithas â materion a dewisiadau sy'n ymwneud â diwedd oes
  • Meithrin gallu ymchwilwyr a denu cyllid ymchwil newydd i ddatblygu a chynnal darpariaeth ymchwil i ofal lliniarol a gofal diwedd oes

Mae ein hymchwil yn cwmpasu ystod o fethodolegau a mathau o ymchwil, gan gynnwys:

  • astudiaethau dulliau cymysg aml-ganolfan
  • treialon clinigol cyfnod 3 ar raddfa eang
  • addysgu a goruchwylio myfyrwyr PhD, MSc ac ymsang
  • prosiectau gwerthuso