Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Argraffu

Mae’r Gwasanaethau Argraffu yn darparu llungopïo, argraffu, rhwymo a lamineiddio, ac yn gwerthu deunydd ysgrifennu.

Os ydych yn ymwelydd rheolaidd â’n llyfrgelloedd, gallwch agor cyfrif defnyddiwr llungopïo, a fydd yn eich galluogi i ddefnyddi’r llungopïwyr hunanwasanaeth rhwydweithiol yn y llyfrgelloedd. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod i agor cyfrif os nad ydych eisoes yn aelod o’n llyfrgelloedd neu’n defnyddio un o'n cynlluniau aelodaeth gymunedol.

Sylwer y codir tâl am gael mynediad i’r gwasanaethau hyn. Gallwch holi ynghylch y taliadau hyn yn ein llyfrgelloedd.

Lleoliadau

Gwasanaethau argraffu Adeilad Bute

Gwasanaethau argraffu a lamineiddio yn Adeilad Bute.