Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Byddwch yn astudio mewn amgylchedd academaidd ac ymchwil bywiog a bydd arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd yn eich goruchwylio.

Rydym yn cynnig dau opsiwn gwahanol ar gyfer astudio Doethuriaeth: Doethur mewn Athroniaeth (PhD) a Doethuriaeth Broffesiynol.

Yn fras, nod y PhD yw paratoi ymgeiswyr at yrfa yn seiliedig ar ymchwil, tra bod Doethuriaeth Broffesiynol yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion gyrfa gweithwyr proffesiynol sy’n ymarfer, yn arbennig y rhai hynny sydd mewn, neu sy’n anelu at gyrraedd, swyddi uwch.

Mae hyfforddiant ymchwil rhyngddisgyblaethol yn nodwedd gref iawn o’n rhaglenni ymchwil ôl-raddedig. Rydym yn ymrwymo i wneud ymchwil sy’n seiliedig ar theori ac yn canolbwyntio’n glir ar bolisïau.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i astudio ymchwil ôl-raddedig ym meysydd cymdeithaseg, polisïau cymdeithasol, troseddeg, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, gwaith cymdeithasol ac addysg.

Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cynnwys cynnal amrywiaeth fawr o grwpiau ymchwil gweithgar, grwpiau astudio anffurfiol a chyfresi o seminarau.

Rydym yn cael ein cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel canolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil empirig, damcaniaethol wybodus.

PhD

PhD

Mae hyfforddiant ymchwil yn rhan ganolog o’n rhaglen PhD ac mae ein myfyrwyr ymchwil yn elwa o ddiwylliant ymchwil deinamig.

Doethuriaeth Broffesiynol

Doethuriaeth Broffesiynol

Mae’n rhaglenni doethurol proffesiynol wedi eu dylunio i ddatblygu galluoedd ymchwil ac ysgolheigaidd unigolion sy’n gweithio o fewn cyd-destunau proffesiynol.