Dr Angharad Naylor
Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cyhoeddwyd 07 Dec 2016 • 8 munud o ddarllen
Gwella profiad a datblygu sgiliau – creu cwricwlwm newydd
Cefais fy mhenodi drwy Gynllun Staffio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gydlynu’r llwybr Ail Iaith yn Ysgol y Gymraeg. Roedd angen newid y ddarpariaeth er mwyn gwella profiad y myfyrwyr a chreu cyfleoedd gwell iddynt ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith. Cefais gyfle i ailwampio’r ddarpariaeth Ail Iaith yn llwyr - ar lefel 4 (blwyddyn 1) a lefel 5 (blwyddyn 2). Roedd hyn yn cynnwys ailstrwythuro’r modiwlau a gynigiwyd, addasu’r cynnwys a’r dulliau dysgu a darparu cyfleoedd allgyrsiol a digyswllt a fyddai’n atgyfnerthu’r dysgu.
Crynodeb
Crynhowch eich astudiaeth achos mewn tair brawddeg fer – beth wnaethoch chi, beth wnaeth eich ysgogi i wneud hyn, a pha effaith a gafodd arnoch chi a'ch myfyrwyr?
Cefais fy mhenodi drwy Gynllun Staffio’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gydlynu’r llwybr Ail Iaith yn Ysgol y Gymraeg. Roedd angen newid y ddarpariaeth er mwyn gwella profiad y myfyrwyr a chreu cyfleoedd gwell iddynt ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith. Cefais gyfle i ailwampio’r ddarpariaeth Ail Iaith yn llwyr - ar lefel 4 (blwyddyn 1) a lefel 5 (blwyddyn 2). Roedd hyn yn cynnwys ailstrwythuro’r modiwlau a gynigiwyd, addasu’r cynnwys a’r dulliau dysgu a darparu cyfleoedd allgyrsiol a digyswllt a fyddai’n atgyfnerthu’r dysgu.
Mae’r newidiadau wedi dylanwadu’n fawr ar y ddarpariaeth AI yn Ysgol y Gymraeg. Mae creu darpaariaeth newydd wedi rhoi cyfle imi gydweithio’n agos â’r myfyrwyr i sicrhau ein bod fel Ysgol yn diwallu eu hanghenion ac yn creu cwricwlwm hyblyg ac yn datblygu sgiliau iaith y myfyrwyr ym mhob cyd-destun.
Cefndir
Roedd angen ailwampio’r ddarpariaeth AI er mwyn cau’r bwlch rhwng y ddarpariaeth AI ar gyfer lefel A a'r hyn sy’n digwydd ar lefel y radd. Roeddwn am hwyluso’r broses honno o drosglwyddo i sefyllfa Addysg Uwch a rhoi’r arfogaeth i fyfyrwyr allu datblygu eu sgiliau ieithyddol ynghyd â meithrin hyder i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd a chyd-destunau.
Mae’r ddarpariaeth newydd yn seiliedig ar gwricwlwm sbeiral sy’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr adolygu ac atgyfnerthu gwybodaeth er mwyn gallu datblygu a dysgu o’r newydd.
Ymagwedd
Aethpwyd ati yn gyntaf i ystyried yr agweddau canlynol:
Cyfathrebu â myfyrwyr
Defnyddiwyd mewnbwn gan fyfyrwyr yn ystod y broses ail-strwythuro drwy gyfrwng grwpiau ffocws a sgyrsiau anffurfiol. Gofynnwyd am adborth cyson hefyd yn ystod y trawsnewid er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ymateb i anghenion y myfyrwyr.
Addasu’r amserlen
Roedd yr hen ddarpariaeth yn seiliedig ar ddysgu 20 credyd ar draws y flwyddyn - felly 4 modiwl, 20 credyd dros y flwyddyn gyfan.
Mae’r ddarpariaeth newydd yn seiliedig ar strwythur gwbl wahanol ac yn cynnwys 2 fodiwl dwys (20 credyd) dros gyfnod o 5 wythnos yr un yn Semester yr Hydref. Dyma’r modiwlau pontio sy’n atgyfnerthu patrymau a sgiliau a ddatblygwyd yn ystod y cwrs lefel A.
Llwyddwyd i addasu strwythur yr amserlen fel bod modd creu cwricwlwm sbeiral lle gwelir modiwlau yn gweu i’w gilydd.
Yn 2015/16 cynigiwyd 120 credyd yn y Gymraeg i fyfyrwyr am y tro cyntaf. Mae’r cynnydd hwn yn bwysig iawn er mwyn cynyddu oriau cyswllt â’r iaith darged.
Oriau cyswllt
Aethpwyd ati i gynyddu’r oriau cyswllt ar bob modiwl o 2 awr gyswllt ar bob modiwl i o leiaf 4 awr. Bydd gan fyfyrwyr sy’n astudio 120 credyd yn y Gymraeg ar y llwybr AI o leiaf 16 awr gyswllt erbyn hyn.
Cynnwys y dysgu
Yn ystod y ddau fodiwl pontio sicrheir bod cyfleoedd i ymateb i anghenion y myfyrwyr drwy sicrhau bod hyblygrwydd i’r sesiynau dysgu. Defnyddir dulliau dysgu cyswllt a digyswllt, ynghyd â defnydd cyson o asesu ffurfiannol ac adborth fel sail ar gyfer y sesiynau dysgu. Mae’r myfyrwyr yn gallu llywio eu dysgu eu hunain ac yn cysylltu hyn oll â’r deilliannau dysgu.
Dysgu anffurfiol
Ar sail ymateb y myfyrwyr trefnir gweithgareddau anffurfiol cyson i atgyfnerthu’r dysgu ac i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys sesiynau iaith anffurfiol, grŵp Facebook caeedig a chlwb clonc wythnosol. Mae’r rhain yn weithgareddau anffurfio a gwirfoddol ond fel y gwelir o’r ymatebion isod, mae’r effaith yn gadarnhaol iawn.
Heriau
Mae cynyddu nifer yr oriau cyswllt a chyynnig rhagor o asesiadau ffurfiannol yn golygu bod mwy o alw ar amser staff ond mae’r ymateb yn gadarnhaol iawn a gwelwyd cynnydd yn lefelau cyrhaeddiad y myfyrwyr y llynedd.
Canlyniadau
Mae’r garfan gyntaf sydd wedi dilyn y ddarpariaeth newydd wedi graddio eleni. Mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn a’r lefelau cyrhaeddiad yn sicr yn uwch gyda nifer mwy o fyfyrwyr yn cyrraedd gradd 2:1.
Cafwyd ymatebion cadarnhaol gan yr arholwyr allanol yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd a nodwyd nad oes cymaint o fwlch rhwng y goreuon a’r rhai sy’n cyrraedd gradd 3ydd dosbarth / 2:2 isel.
Adborth gan fyfyrwyr
"[Angharad] uses her own time to provide extra activities for second language Welsh students from Years 1-3. Although she does not teach us in the third year, she is always willing to help anyone of us by reading through our work, correcting grammar or providing work sheets to encourage improvement. She utilises social media through the 'Criw Cymraeg' Facebook page in which she posts helpful links, updates and information on any extra sessions we can attend. Without her relentlessly hard work in the first year and extra support in the third year of my course, I highly doubt that any one of the second language students currently in the third year, including myself, would be able to reach any level of proficiency in the language."
"‘Fel myfyriwr Cymraeg ail iaith, mae [Angharad] wedi cefnogi minnau a disgyblion eraill trwy gydol ein gradd yn Ysgol y Gymraeg gan drefnu sesiynau anffurfiol tu allan i ddarlithoedd inni gael siawns i sgwrsio yng Nghymraeg. Mae hi'n gefnogol, creadigol ac mae'n gwneud ei gorau glas sicrhau ein bod ni'n gwella ein sgiliau iaith heb i ni sylweddoli!"
Pwyntiau dysgu a datblygu dealltwriaeth
Byddaf yn ymwnued â phrosiect i integreiddio myfyrwyr yn ystod 2016/17 er mwyn darparu cyfleoedd yn ystod y cwricwlwm, ac yn allgyrsiol, i fyfyrwyr o wahanol garfanau, ac ar bob lefel, gydweithio a rhyngweithio â’i gilydd. Bydd hyn yn fodd i adeiladu ar y ddarpariaeth AI bresennol a chryfhau’r ddarpariaeth honno.
Rwy’n awyddus i barhau i ddatblygu’r ddarpariaeth trwy ymateb i anghenion ac adborth myfyrwyr. Mae’r prosiect hwn wedi dangos cymaint yw pwysigrwydd mewnbwn myfyrwyr i’r broses. Hoffwn barhau i gydweithio â myfyrwyr i ddatblygu syniadau a newidiadau yn y dyfodol a manteisio ar gyfleoedd i fyfyrwyr lywio eu dysgu eu hunain.
Mae ymroddiad a mewnbwn staff ac unigolion – y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yn benodol – wedi bod yn greiddiol i lwyddiant y ddarpariaeth newydd. Yn anffodus nid oes lle i nodi’r oriau gwaith hyn yn y model baich gwaith sydd gallu bod yn heriol wrth feddwl am staffio ayb. Byddwch yn ofalus os ydych am ymgymryd â gweithgareddau anffurfiol – fe fyddan nhw’n bwyta eich amser chi ond mae’r canlyniadau a’r impact ar brofiad y myfyrwyr yn wych...ac yn werth y drafferth!
Lawrlwytho