Ewch i’r prif gynnwys

Israddedig

Drwy ddechrau ar eich astudiaethau israddedig gyda ni, byddwch yn sicrhau bod gennych chi sylfaen gadarn yn academaidd ac yn seiliedig ar ymchwil ym maes newyddiaduraeth.

Rydym yn cynnig amgylchedd ysgogol deallusol sydd wedi ymrwymo i fanteisio i'r eithaf ar eich potensial, gyda graddau israddedig sy'n astudio sawl agwedd ar newyddiaduraeth, y cyfryngau, diwylliant a chyfathrebu.

Fel myfyriwr israddedig yn yr Ysgol, byddwch yn cael y cyfle i astudio modiwlau amrywiol sy'n ymdrin â phynciau sy’n berthnasol yn gymdeithasol ym maes y cyfryngau, gwleidyddiaeth a chyfathrebu digidol. Mae yna hefyd opsiwn i edrych ar fodiwlau o ysgolion eraill drwy ein rhaglen gradd Cydanrhydedd.

Rydym yn canolbwyntio ar addysgu ein myfyrwyr am safbwyntiau damcaniaethol ac academaidd, ond rydym hefyd yn hyrwyddo’r broses o ddatblygu meddwl yn feirniadol a thechnegau ysgrifennu cymhellol drwy ddarlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtora personol.

Mae ein rhaglenni i israddedigion yn seiliedig ar theori, ond rydym yn cynnwys mwy a mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr i brofi arferion y diwydiant drwy amrywiol raglenni partneriaeth gyda chyrff sefydliadol.

Rhaglenni gradd

Rhaglenni gradd cyd anrhydedd

Astudio dramor

Rydym yn addysgu myfyrwyr ar gyfer hawliau, cyfrifoldebau a dinasyddiaeth fyd-eang, ac yn cynnig cyfleoedd iddynt astudio dramor.

Mae gennym nifer o gytundebau cyfnewid gyda sefydliadau academaidd arweiniol yn Ewrop, UDA, Seland Newydd, Canada, ac Awstralia, sydd â chofnodion ymchwil o'r radd flaenaf, neu enw da’n rhyngwladol mewn hyfforddi newyddiadurwyr a/neu weithwyr proffesiynol yn y cyfryngau. Mae'r cytundebau hyn yn caniatáu i rai o'n myfyrwyr israddedig astudio am dymor yn y sefydliadau hyn, ac mae’r graddau a geir yn y prifysgolion hyn yn cyfrif tuag at eu gradd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae astudio dramor fel rhan o’ch profiad o brifysgol yn ffordd wych o ehangu’ch gwybodaeth academaidd drwy gael profiad rhyngwladol a all eich helpu chi i ddatblygu sgiliau y bydd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Mae mynd dramor am dymor hefyd yn gyfle unigryw i fyfyrwyr ddysgu am y diwylliant lleol a phrofi sut mae pobl yn byw mewn cymdeithas wahanol. Mae myfyrwyr sy'n treulio cyfnod yn astudio dramor hefyd yn ehangu eu rhwydwaith o ffrindiau, o’r gwledydd maen nhw’n ymweld â nhw ac o genhedloedd eraill.

Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd, ac rwy’n amau a fyddwn i wedi cael yr un cyfleoedd mewn prifysgolion eraill. Mae'r Ysgol yn deall bod gofyn gwthio myfyrwyr y tu hwnt i’w gradd, ac maen nhw’n gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael y cyfle i wneud hyn.

Rebecca Taylor-Ashfield BA Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol

Cysylltwch â ni

Ymholiadau israddedigion