Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymchwil sy’n ymwneud â materion cyfoes ar draws newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwylliant, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol.

Ysgoloriaethau Ymchwil Partneriaeth Doethurol (DTP) Cymru ESRC

Gyda chefnogaeth DTP ESRC Cymru, rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaeth PhD ym maes newyddiaduraeth a democratiaeth, gyda’r posibilrwydd o gael Ysgoloriaeth DTP ESRC a ariennir yn llawn. Caiff dyddiadau cau ar gyfer yr ysgoloriaeth hon eu hysbysebu tua diwedd mis Tachwedd/Rhagfyr a bydd manylion llawn yn cael eu postio ar ein tudalen ysgoloriaethau a phrosiectau PhD.

Diwylliant ein hymchwil

Un o brif gryfderau ein hamgylchedd ymchwil yw’r ddeialog rhwng staff ymchwil a’r rhai sy’n canolbwyntio ar ymarfer, sy’n ein helpu i sicrhau canlyniadau ymchwil dylanwadol o ran ymarfer a pholisi yn y byd ehangach.

Mae ein rhaglen PhD/MPhil cyffredinol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn rhoi sylw i’r holl brosiectau rydyn ni’n eu goruchwylio mewn unrhyw faes newyddiaduraeth, y cyfryngau ac astudiaethau diwylliannol. Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer prosiectau PhD neu MPhil sy’n rhan o un neu fwy o'n clystyrau ymchwil.

Fodd bynnag, byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau ar gyfer prosiectau nad ydynt yn ffitio'n gyfan gwbl o fewn y paramedrau hyn.

Byddwch yn cael y cyfle i adael eich ôl ar y byd academaidd, ac rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial. Cewch wneud hyn gyda chymorth ein goruchwylwyr ymchwil arbenigol a’r gefnogaeth bersonol, dechnegol ac academaidd a ddarperir gan ein staff profiadol.

Rydym yn darparu hyfforddiant a lefel uchel o gefnogaeth, ac mae’r gymuned ôl-raddedig yn cyfrannu’n hanfodol at enw da rhyngwladol y Brifysgol am ymchwil.

Nodweddion unigryw

  • Mae’r Ysgol yn un o ganolfannau gorau Prydain ar gyfer addysgu ac ymchwil.
  • Mae gan ein staff enw da rhyngwladol mewn newyddiaduraeth ymarferol ac mewn ymchwil a chyhoeddiadau.

Cysylltu â ni

Student support