Ewch i’r prif gynnwys

Y cyfryngau, diwylliant a chreadigrwydd

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae clwstwr y cyfryngau, diwylliant a chreadigrwydd yn cynrychioli maes canolbwyntio newydd i'r ysgol ac yn dwyn ynghyd ystod eang a rhyng-gysylltiedig o arferion, polisïau ac astudiaethau ar draws y cyfryngau a'r diwydiannau diwylliannol.

Mae ymchwil y clwstwr yn cynnwys astudiaethau ym maes teledu a chyfryngau ffeministaidd, gwleidyddiaeth hunaniaeth, theori ddiwylliannol ac arferion cyfryngau ymgolli a chyfranogol.

Mae staff academaidd sy'n gweithio o fewn y clwstwr hwn yn aml yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau amrywiol megis dylunwyr gwefannau a gemau, gwneuthurwyr ffilm ac amgueddfeydd.

Rhwydweithiau ac arloesedd newydd

Mae'r clwstwr wedi cymryd rôl arweiniol wrth sefydlu rhwydweithiau ar gyfer ymchwil, arloesi ac effaith, wedi'u llywio gan gydweithio ar draws diwydiannau diwylliannol a chreadigol.

Er enghraifft, gwaith hirsefydlog Dr Jenny Kidd ar dreftadaeth ddiwylliannol ddigidol mewn cydweithrediad ag amgueddfeydd megis Amgueddfa Cymru, Tate Britain, yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol a Thŵr Llundain. (Link to Impact Case Study)

Mae Rhwydwaith Ymchwil Astudiaethau Crefft Ymladdyr ysgol, a lansiwyd yn 2015 gan yr Athro Paul Bowman, yn gweithredu fel rhan o’r clwstwr hwn. Nod y rhwydwaith yw cysylltu disgyrsiau disgyblaethol a diwylliannol datgysylltiedig am grefft ymladd drwy annog deialog drwy ddigwyddiadau trawsddisgyblaethol.

Mae'r rhwydwaith wedi cynnal chwe chynhadledd ryngwladol ac wedi cyhoeddi 11 copi o'r cyfnodolyn 'Martial Arts Studies', sef cyfnodolyn academaidd mynediad agored ar-lein a adolygir gan gymheiriaid sy'n cyhoeddi materion thematig ac agored. Caiff rhifynnau newydd eu cyhoeddi bob Gwanwyn a Hydref.

Cyfnodolion newydd

Cafodd Representology, cyfnodolyn academaidd a diwydiant newydd sy'n archwilio amrywiaeth yn y cyfryngau, ei lansio yn 2020.

Caiff ei gyhoeddi deirgwaith y flwyddyn ac mae’n ymroddedig i safbwyntiau ynghylch ymchwil ac arferion gorau ar sut i sicrhau bod y cyfryngau yn cynrychioli pob rhan o'r gymdeithas yn well.

Cafodd Representology ei sefydlu ar y cyd gan Dr David Dunkley-Gyimah o'r Ysgol, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Birmingham.

Canolfannau ymchwil weithredu

Mae ehangder ymchwil yr ysgol o fewn clwstwr y cyfryngau, diwylliant a chreadigrwydd wedi arwain at ddatblygu canolfannau ymchwil weithredu newydd sydd wedi ymgysylltu ac integreiddio â'r cyfryngau a diwydiannau diwylliannol yng Nghaerdydd.

Uned Economi Greadigol

Y clwstwr hwn a ddatblygodd yr Uned Economi Greadigol - a sefydlwyd yn 2014 mewn ymateb i ymchwil a nododd yr heriau i fentrau creadigol rhanbarthol mewn economi fyd-eang. Yn 2015, sefydlodd yr Uned 'Caerdydd Creadigol' sef rhwydwaith ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd sydd bellach yn cynnwys 2,700 o aelodau, gan gynnwys sefydliadau, cwmnïau a gweithwyr llawrydd. Enillodd Caerdydd Creadigol Wobr Ymgysylltu â'r Gymuned yn 2016 a dwy Wobr Cenhadaeth Sifig yn 2019.

Clwstwr Creadigol

Mae'r clwstwr hefyd yn gartref i'r cais llwyddiannus dan arweiniad yr Athro Justin Lewis ar gyfer 'Clwstwr Creadigol', sef rhaglen Ymchwil, Datblygu ac Arloesi gwerth £10 Miliwn (rhan o Raglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC)).

Sefydlwyd Clwstwr Creadigol yn 2019 i wneud De Cymru yn gadarnle ar gyfer arloesi ym maes cynhyrchu'r cyfryngau, technolegau digidol, modelau busnes a seilwaith sgrîn.

Fe'i harweinir gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ei brif bartneriaid yn y diwydiant yn cynnwys y BBC, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, ac mae ei bartneriaid eraill yn y diwydiant yn cynnwys Ffilm Cymru, Boom, Screen Alliance Cymru, Alacrity Foundation ac S4C.

Canolfan Tystiolaeth Polisi

Mewn cydweithrediad â Nesta a phrifysgolion eraill, sefydlodd yr Athro Stuart Allan Ganolfan Tystiolaeth Polisi'r Diwydiannau Creadigol (PEC). Mae wedi'i hariannu gan yr AHRC am bum mlynedd a’i nod yw llunio polisi a chanllawiau i gyflymu a llywio twf yn niwydiannau creadigol y DU – mae JOMEC yn gartref i faes gwaith 'Y celfyddydau, diwylliant a darlledu gwasanaeth cyhoeddus' a arweinir gan Allan.