Ewch i’r prif gynnwys

Mynegwch eich diddordeb ar gyfer Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie

I gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb ar gyfer Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie, llenwch y ffurflen isod, gan sicrhau eich bod yn uwchlwytho eich Mynegiant o Ddiddordeb.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y canllawiau'n ofalus ac wedi deall gofynion y cynllun cyn dechrau gweithio ar eich datganiad o ddiddordeb.

Ni fyddwn yn derbyn Datganiadau o Ddiddordeb oni bai eich bod wedi defnyddio templed Prifysgol Caerdydd. Ni fyddwn y ystyried ceisiadau sy'n anghyflawn neu sy'n dangos na ddëellir canllawiau'r cynllun yn glir, heb eeich hysbysu.

Nodwch: Mae'n rhaid i chi lenwi'r meysydd a nodir gyda seren (*).
Eich manylion*
Eich manylion*
Gallwch ddewis Ysgol Academaidd neu Sefydliad Ymchwil. Mae ein Sefydliadau Ymchwil yn dwyn ynghyd ddoniau academaidd ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Dylech nodi mai dogfennau Word a PDF yn unig y medrwch eu uwchlwytho.
Darllenwch Raglen Waith y Gymrodoriaeth i wirio a ydych yn gymwys.

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd eich data personol a gynhwysir yn eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddarparu i Brifysgol Caerdydd yn unig, fel y Rheolwr Data. Wrth ddarparu eich data personol, byddwn yn prosesu eich data fel rhan o'n gwaith o ddarparu tasg er budd y cyhoedd, sef darparu cyfleoedd hyfforddi i'r rhai sy'n gwneud ymchwil er budd y cyhoedd a hefyd hyrwyddo a datblygu ymchwil er mwyn cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd. Byddwn yn defnyddio'r data a ddarperir i asesu ansawdd pob ymgeisydd unigol a'r cais, cyn bwrw ymlaen â'r cais llawn.

Bydd y data personol yr ydych wedi'i ddarparu ar y ffurflen fynegiad o ddiddordeb yn cael eu storio'n ddiogel ar weinydd Prifysgol Caerdydd, sy'n cael eu defnyddio gan y rhai sy'n gweinyddu'r cynllun a'r rhai sy'n asesu'r datganiadau o ddiddordeb. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw gan Brifysgol Caerdydd hyd nes y gwneir cais llawn, a bydd hynny'n cael ei ddileu. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gymrodoriaeth unigol Marie Sklodowska Curie yw 9 Medi 2020, felly dyma'r pwynt hwyraf y byddwn yn dileu eich data.

Prifysgol Caerdydd yw'r Rheolwr Data ac mae'n ymrwymedig i barchu a diogelu eich data personol yn unol â'ch disgwyliadau a'ch deddfwriaeth diogelu data. Mae gan y Brifysgol Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu â nhw yn inforequest@caerdydd.ac.uk. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Ddiogelu Data, gan gynnwys eich hawliau a manylion am sut i gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn dymuno cwyno ar ein tudalennau gwybodaeth gyhoeddus.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â:

Swyddfa Ymchwil Ewropeaidd a Rhyngwladol

Email
eiro@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 0171