Ewch i’r prif gynnwys

Professor David Linden

Yr Athro David Linden yn siarad am BRAINTRAIN - technoleg newydd i helpu pobl i hyfforddi eu hymennydd eu hunain - a sut y sefydlwyd CUBRIC, canolfan delweddu'r ymennydd Prifysgol Caerdydd werth miliynau o bunnoedd.

Gwyliwch y fideo yma.

Mae BRAINTRAIN yn dechnoleg newydd sy’n defnyddio signalau delweddu i alluogi pobl i dracio eu gweithgarwch ymennydd eu hunain.

Ymysg yr enghreifftiau presennol mae treial i bobl â dibyniaeth ar alcohol i’w helpu i leihau eu hawydd am alcohol drwy weithdrefn hyfforddiant niwro-adborth.

BRAINTRAIN yw’r unig gonsortiwm Ewropeaidd sy’n edrych ar y dechnoleg newydd hon.

Mae BRAINTRAIN wedi dod â grwpiau arweiniol ynghyd o sawl gwlad, o ddiwydiant a’r byd academaidd. Mae’r grŵp rhyngwladol blaenllaw hwn o ymchwilwyr yn cael ei gydlynu o Gaerdydd.


Gyda chymorth gan y Brifysgol, Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyllid Ewropeaidd a mwy, bu’n bosibl sefydlu CUBRIC - cyfleuster rhyfeddol sydd wedi datblygu’n un o ganolfannau delweddu mwya’r byd.


Mae David yn ystyried Caerdydd yn ganolfan ddiwylliannol fawr, gyda sawl prifysgol arall yn ogystal â Phrifysgol Caerdydd. Mae’n ddinas ryngwladol fawr ac yn lle cyfeillgar iawn.