Ewch i’r prif gynnwys

Professor Ambreena Manji

Yr Athro Ambreena Manji yn disgrifio rhaglen Pro Bono Cyfiawnder Byd-eang Prifysgol Caerdydd a'r gwaith cyfreithiol rhyngwladol mae ei myfyrwyr yn ei wneud yn Affrica.

Gwyliwch y fideo yma.

Roedd Ambreena’n Gyfarwyddwr ar y Sefydliad Prydeinig yn Nwyrain Affrica rhwng 2010 a
2014.

Mae hi’n arbenigo mewn cyfraith tir a datblygu, gyda diddordeb mewn diwygio cyfraith tir.
Cafodd ei denu gan enw da Caerdydd fel canolfan arweiniol ar gyfer ymchwil cyfreithiol-
gymdeithasol.

Roedd Ambreena’n un o gyd-sylfaenwyr y Ganolfan Cyfraith a Chyfiawnder Byd-eang.
Mae’r rhaglen Pro-Bono Cyfiawnder Byd-eang yn gyfle i fyfyrwyr baratoi achosion cyfreithiol
yn ymwneud â materion cyfreithiol traws-genedlaethol, yn Kenya er enghraifft, i baratoi
achosion cyfreithiol ar ran cyfreithwyr.

Amlieithrwydd yw ei hoff beth am Gaerdydd. Mae hi’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn fod
Caerdydd yn Brifysgol ddwyieithog, yn hytrach nag un uniaith Saesneg. Mae hi’n credu bod
Caerdydd yn ddinas eangfrydig a Chymru’n wlad eangfrydig. Mae Cymru’n falch o’i
thraddodiadau rhyngwladol.

Mae’n hollol hanfodol i Ambreena fod mewn lle rhyngwladol fel Caerdydd i wneud y math o
waith y mae hi eisiau ei wneud.