Ein partneriaeth â Phrifysgol Namibia
Mae ein partneriaeth gyda Phrifysgol Namibia (UNAM) yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i staff a myfyrwyr yn y ddau sefydliad ymgysylltu'n rhyngwladol.
Dechreuodd ein partneriaeth gydag UNAM yn 2014 gyda lansio Prosiect Phoenix, un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a'r ymrwymiad i sefydlu perthynas hirdymor rhwng ein sefydliadau er budd y ddwy ochr.
Mae ein cydweithio'n parhau i ehangu wrth i brosiectau newydd yn cwmpasu addysg, ymchwil ac adeiladu capasiti ychwanegu at y portffolio cynyddol o weithgareddau ar y cyd. Hyd yma, mae dros 30 o weithgareddau gwahanol wedi'u cyflawni dan ymbarél Phoenix, o hyfforddiant anestheteg i raglennu meddalwedd, ac o ysgolion mathemateg i dechnolegau dysgu digidol.
Mae'r cydweithio academaidd newydd rhwng ein sefydliadau eisoes wedi denu dyfarniadau ymchwil nodedig, gan gynnwys dyfarniad Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) ar gyfer 'Trawswladoli Ieithoedd Modern', sy'n cyfoethogi cyfathrebu effeithiol mewn gwlad lle caiff Saesneg ac Afrikaans eu siarad, yn ogystal â llawer o ieithoedd brodorol.
Mae cysylltiadau helaeth UNAM ar draws Deheubarth Affrica yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu cydweithio aml-bartner yn y rhanbarth ehangach. Mae dyfarniad Datblygu Ymyriadau Iechyd Cyhoeddus y Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) ar gyfer datblygu a dosbarthu pecyn trawma yn Namibia yn dod ag Ysgol Barafeddygol Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Namibia (NUST), UNAM a Phrifysgol Caerdydd at ei gilydd.
Yn dilyn dyfarniad gan y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer raglen adeiladu capasiti ymchwil is-Sahara ar Ddeunyddiau Newydd ar gyfer Dyfodol Ynni Cynaliadwy, a gyllidwyd gan Adran Datblygu Rhyngwladol y DU, mae Prifysgol Caerdydd ac UNAM yn cydweithio gyda Phrifysgol Botswana a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Kwame Nkrumah (KNUST) yn Ghana. Mae'r cydweithio'n cyfuno modelu cyfrifiaduron perfformiad uchel a thechnegau arbrofol i gyfoethogi nodweddion deunydd celloedd solar copr, deunydd crai a gaiff ei gloddio'n eang ond na chaiff ei ddatblygu'n gynhyrchion gwerth uchel yn Namibia.
Cysylltwch â ni
Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â'r bartneriaeth gyda Phrifysgol Namibia, cysylltwch â:
Partneriaethau rhyngwladol Rheolwr Prosiect
Michelle Smith