Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau Arloesol y Dyfodol

Infuse project logo with white text on red background

Rydym ni’n helpu gweithwyr y sector cyhoeddus i ddatblygu sgiliau a all gefnogi cymunedau, cyflymu datgarboneiddio a gwella iechyd a lles dinasyddion yng Nghymru fel rhan o raglen Gwasanaethau Arloesol y Dyfodol (Infuse).

Ariennir y fenter £5.6 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac fe’i harweinir gan Gyngor Sir Fynwy mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Y Lab - Labordy Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

EU flag and Welsh Government logo on blue background

Bydd y rhaglen tair blynedd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus mewn awdurdodau lleol ar draws y Brifddinas-Ranbarth i gael mynediad at sgiliau, dulliau ac offer newydd sy'n gwella eu capasiti a'u gallu i arloesi.

Cyflwynir y rhaglen, sydd wedi’i gwreiddio mewn heriau bywyd go iawn, trwy dri 'Labordy' sydd â ffrydiau gwaith penodol:

  • Y Labordy Addasu – cynorthwyo swyddogion i gynllunio a darparu arbrofion sy'n profi atebion y gellir eu hehangu i broblemau ledled y rhanbarth.
  • Y Labordy Caffael - cynorthwyo swyddogion i ddysgu, datblygu a phrofi prosesau a dulliau newydd ar gyfer caffael cynhyrchion a gwasanaethau arloesol sy'n cynhyrchu gwell canlyniadau i bobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau yn erbyn y ddau faes thematig.
  • Y Labordy Data - cynorthwyo swyddogion i gasglu, rheoli, dadansoddi, deall a gwneud defnydd mwy effeithiol o ddata wrth wneud penderfyniadau.

“Rydym ni’n falch iawn i fod yn bartner yn y prosiect amserol hynod angenrheidiol hwn. Mae yna ymdeimlad o frys i adeiladu ar y dysgu carlam gan COVID-19 i arloesi a thrawsnewid y modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol er mwyn cael gwell canlyniadau.”

Yr Athro Kevin Morgan Athro Llywodraethu a Datblygu

Carfan Alpha

Ym mis Mai 2021, 20 o weision cyhoeddus o saith awdurdod lleol yn ne Cymru oedd y garfan gyntaf i ddechrau ar raglen Infuse.

Bydd Carfan Alpha, fel y'u gelwir, yn derbyn tri mis o hyfforddiant a chefnogaeth o ran sgiliau, offer a dulliau newydd. Yn dilyn hyn ceir tri mis o hyfforddiant yn eu sefydliadau eu hunain wrth iddyn nhw fynd yn ôl i roi eu dysgu ar waith a helpu i newid dyfodol y ffordd y cyflwynir gwasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd i ddod; gan ddatblygu arloesedd, sgiliau newydd a gwella eu gallu drwy ymdrin â heriau gwasanaeth cyhoeddus rhanbarthol gyda'i gilydd.

“Daw prosiect Infuse ar adeg pan fo angen y bobl orau un i'n cynrychioli a gwneud penderfyniadau arloesol ac ystyriol wrth inni wynebu’r heriau sydd o’n blaenau. Os yw’r flwyddyn hon wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi dangos ein bod yn gryfach pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd ac mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn i fod yn cydweithio gyda chyrff blaenllaw i gyflawni’r fenter hon i’r rhanbarth.”

Cynghorydd Peter Fox Arweinydd Cyngor Sir Fynwy

Infuse: y podlediad

Dr Jane Lynch sy'n cymryd golwg fanylach ar yr heriau cymdeithasol a wynebir yng Nghymru drwy siarad ag arbenigwyr blaenllaw mewn llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus.

Listen to the Infuse podcast on Soundcloud.

Gwrandewch, hoffwch a thanysgrifiwch ar Soundcloud, Spotify ac Anchor.fm.

Pobl

Yr Athro James Lewis

Yr Athro James Lewis

Director of Y Lab

Email
lewisj78@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9874
Yr Athro Jane Lynch

Yr Athro Jane Lynch

Professor of Procurement

Email
lynchj2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6144
Yr Athro Kevin Morgan

Yr Athro Kevin Morgan

Athro Llywodraethu a Datblygu

Email
morgankj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6090

Cysylltu

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Infuse ar Twitter a LinkedIn.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â'n tîm i gael rhagor o wybodaeth am brosiect Infuse.

Innovative Future Services