Ewch i’r prif gynnwys

Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector i ddod o hyd i ddatrysiadau i broblemau sylweddol y mae cymdeithas yn eu hwynebu.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi cysylltu â Chanolfan Ymchwil Polisi Arloesedd Prifysgol Caerdydd (CIPR) a’r Lab i ddatblygu a chyflawni rhaglen Cronfa Her £10 miliwn i ganfod, datblygu a graddio datrysiadau arloesol i heriau cymdeithasol mawr.

Yr Her

Ydych chi'n sefydliad sector cyhoeddus sydd â diddordeb mewn datblygu heriau a chysylltu â sefydliadau all gynnig datrysiadau arloesol?

Nod y rhaglen, fydd yn rhedeg am dair blynedd a hanner, yw adeiladu cyfoeth lleol, creu cyfleoedd masnachol i awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd drwy eu gwahodd nhw i gynnig datrysiadau i heriau ar draws tair thema â blaenoriaeth:

  • cyflymu datgarboneiddio
  • gwella iechyd a lles dinasyddion y rhanbarth
  • cefnogi, gwella a thrawsffurfio cymunedau.

Er bod y rhain yn broblemau hirdymor y mae cyrff sector cyhoeddus yn ymdrin â nhw, maent wedi dod yn broblemau mwy brys oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Er enghraifft, mae cyfyngiadau lleol a chenedlaethol wedi peri cwestiynau newydd ynghylch sut rydym yn trefnu ein trafnidiaeth ac yn gwella ansawdd aer. Maent hefyd wedi cynyddu'r angen i ddod o hyd i ddatrysiadau newydd i helpu ein strydoedd mawr a chanolau trefi, sy'n wynebu problemau economaidd.

Digwyddiadau a gweithdai

Cyfres Gweithdy Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Byddwn yn cynnal cyfres o weithdai i gefnogi ymgeiswyr sydd â diddordeb ac eisiau ystyried eu heriau. Byddwn hefyd yn eu cynorthwyo i wella eu ceisiadau gyda ni ac eraill ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Dyddiadau gweithdai newydd ar gyfer 2il rownd y ceisiadau i’w cyhoeddi yn ystod haf 2021.

Rhagor o wybodaeth am y gyfres gweithdy

Cyllid a Chymorth i Heriau sy'n cael eu gyrru gan y Sector Cyhoeddus

Cynhaliwyd cyfarfod hysbysu i gyflwyno Cronfa Her CCR ar 18 Tachwedd 2020.

Gwyliwch recordiad o'r digwyddiad.

Ein hymchwil

Mae'r gronfa'n cynnwys darpariaeth o £2 miliwn ar gyfer gweithgareddau ymchwil, rheoli a gweithredol CIPR ac Y Lab, ar y cyd â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac mae'n gyfle i ymchwilwyr siapio a datblygu menter cronfa her drwy:

  • ddod â thystiolaeth berthnasol o gynlluniau tebyg o leoedd eraill
  • llywio polisïau ac arferion newydd
  • cymryd rhan yn nefnydd ymarferol yr ymchwil
  • cyfrannu at arloesi yn y gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r ymchwil a'r ymgysylltu hwn yn adeiladu ar waith blaenorol aelodau CIPR a Y Lab, ac yn rhagweld cyfleoedd i'r dyfodol wrth i gronfeydd her chwarae rhan fwy mewn dulliau polisi o ran datblygiad economaidd ac arloesedd.  Bydd y Rhaglen yn arddangos ymhellach sut gall sefydliadau'r sector cyhoeddus fod yn gatalydd o ran arloesedd drwy ddulliau caffael arloesol.

Arloesi gyda'n gilydd

Drwy gydweithio gyda'r Tîm Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, byddwch yn:

  • edrych ar atebion arloesol i heriau economaidd lleol o bwys
  • teilwra datrysiadau i wella darpariaeth gwasanaethau lleol
  • fframweithiau caffael cyhoeddus 'newydd' a chreu marchnadoedd newydd
  • masnacheiddio datrysiadau i raddio a gwerthu
  • tyfu a datblygu cadwyni cyflenwi lleol.

Mynegwch eich diddordeb

Os oes gennych syniad am her neu os hoffech gymryd rhan yn y Gronfa Her, llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich her arfaethedig yn fanylach.

Events and workshops

We will be running a series of workshops to support interested applicants in thinking through their challenges and strengthening their applications.

New workshop dates for round 3 of applications to be announced in spring 2022.

For further information on the Challenge Fund, view at the recording from our briefing event.

Briefing Event Video

Cysylltu â ni

Cysylltwch â'n tîm i gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd