Ewch i’r prif gynnwys

HCT108 - Adrodd ar y Frest a’r Abdomen yn achos Oedolion

Nod y modiwl hwn yw rhoi'r uwch wybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr i greu adroddiadau ysgrifenedig cryno a rhesymegol o'r frest a'r abdomen sy'n manylu ar y delweddau, yn dehongli’r batholeg ac yn cysylltu’r arwyddocâd â’r gwaith o reoli cleifion â 95% o sensitifrwydd a phenodoldeb.

Dyma fodiwl dewisol ar gyfer Tyst.Ôl-radd./PgD Adrodd Radiograffig, MSc Radiograffeg ac MSc Uwch Ymarfer.

Modiwl cyffredin ar gyfer y proffesiynau gofal iechyd yw’r modiwl hwn.

Mae angen mentor radiolegol ar gyfer y modiwlau adrodd. Sylwer nad yw Prifysgol Caerdydd yn trefnu'r mentor radiolegol.

Dyddiadau'r modiwl

Dewch i wybod pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn cael ei gynnal drwy lawrlwytho ein Calendr Modiwlau Annibynnol Lefel 7:

Download the calendar

Cwrdd â'r tîm

Cysylltiadau allweddol

Gofynion mynediad

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fod wedi cwblhau modiwl HCT345 cyn ymrestru ar y modiwl hwn.

Os ydych eisoes yn gymwys i ysgrifennu eich adroddiadau radiolegol eich hun ac yn dymuno ymgymryd â naill ai HCT207 neu HCT108 yn fodiwl annibynnol, efallai na fydd gofyn ichi ymgymryd â HCT345 yn fodiwl hanfodol.

Gradd gyntaf neu ddiploma sy'n rhoi trwydded i ymarfer yn y proffesiwn iechyd perthnasol a dwy flynedd o brofiad ar ôl cofrestru.

Dylai myfyrwyr ddarparu contract wedi'i lofnodi gan eu rheolwr llinell a'u mentor radiolegol sy’n cadarnhau'r ymrwymiad clinigol.

Rhagor o wybodaeth

Côd y modiwlHCT108
Credydau 30
Lefel 7