Ewch i’r prif gynnwys

HC3127 - Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol: Gofal Diwedd Oes

Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio ar draws pob lleoliad gofal. Ei nod yw gwella eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Yn benodol, mae’r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r hyder sydd eu hangen i gefnogi cleifion (a’u teuluoedd) â chanser datblygedig a chlefydau eraill sy'n fygythiol/cyfyngu ar eu bywyd yn eu man gofal arferol ar ddiwedd oes, boed yn yr ysbyty, yn eu cartrefi eu hunain neu cartref gofal cyfarwydd. Mae datblygiad y modiwl hwn yn cyd-fynd yn uniongyrchol ag agendâu proffesiynol a gwleidyddol, er enghraifft, Cynllun Darparu Gofal Diwedd Oes (LlC 2017) sy’n mynnu bod pob nyrs yn hyderus ac wedi’u haddysgu i ddarparu’r gofal gorau posibl i bobl ar ddiwedd eu hoes.

Bydd y modiwl hwn yn darparu amgylchedd cyfoethog ar gyfer dysgu ar y cyd a bydd yn elwa ar ddysgu a addysgir ac ar ddysgu sy’n seiliedig ar waith. Mae'r modiwl yn rhoi cyfle i drafod gwybodaeth gyfredol ac arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau priodol ynghylch taith ddi-dor yr unigolyn sy’n byw gyda chyflyrau sy’n bygwth bywyd/cynyddol, gan eich galluogi i archwilio gofal corfforol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol y grŵp hwn o gleifion a’u teuluoedd/ffrindiau. Bydd yn eich annog mewn cydweithrediad ag amlasiantaethau eraill, i gefnogi cynllun gofal unigol sy'n canolbwyntio ar faterion cyfannol sy'n gysylltiedig â gofal lliniarol, diwedd oes a gofal profedigaeth.

Mae'r modiwl ar gael i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar yr amod eu bod yn gallu bodloni'r canlyniadau dysgu ac yn gallu sicrhau cyllid. Rhaid trafod y cais ag arweinydd y modiwl a rheolwr y rhaglen.

Arweinwyr Modiwlau

Darganfyddwch pryd mae'r modiwl annibynnol hwn yn rhedeg trwy lawrlwytho ein Calendr Modiwlau Unigol Lefel 6:

Download the calendar

Rhagor o wybodaeth

Claire Job

Claire Job

Uwch-Ddarlithydd: Nyrsio Oedolion

Email
jobc@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87815
Hannah Arnold

Hannah Arnold

Darlithydd: Nyrsio Oedolion

Email
arnoldh1@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 206 87802

Further information

Module codeHC3127
Credits30
Level6