Asesu wrth Ymarfer
Platfformau electronig yw MyProgress, eBortffolios ac ePAD sydd wedi cael eu rhoi ar waith i drawsnewid asesiadau clinigol.
Cyrchwch y platfformau
MyProgress Therapi Galwedigaethol
MyProgress Ymarfer Adrannau Llawfeddygaeth
Os bydd angen cymorth arnoch, cysylltwch â hcare-eportfolio@caerdydd.ac.uk.
Adnoddau defnyddiol
Dewch o hyd i ganllawiau ynghyd â fideos a Chwestiynau Cyffredin.
Sut mae'r platfformau’n gweithio
Mae'r systemau'n gweithio drwy ap i ffonau symudol sy’n casglu tystiolaeth, yn ogystal â gwefan sy’n adolygu’r cynnydd. Lluniwyd yr ap i ffonau symudol i weithio hyd yn oed heb gysylltiad â’r rhyngrwyd. Gellir anfon ffurflenni asesu clinigol a gwblheir oddi ar-lein i'r systemau pan fydd modd cysylltu unwaith eto.
Ymhlith y manteision y mae:
- Gwell cyfathrebu rhwng y staff a’r myfyrwyr yn y Brifysgol ac wrth ymarfer.
- Monitro ac adolygu cynnydd myfyrwyr mewn lleoliadau clinigol yn well gan ganiatáu ymyrraeth gynnar os bydd angen.
- Datblygu sgiliau llythrennedd digidol ystyrlon.
- Dull gwirio ebyst yn fwy diogel na llofnodion â llaw, gan greu trywydd archwilio.
- Dim angen cludo na storio copïau papur o asesiadau clinigol, gan leihau'r risg o’u colli neu eu difrodi.
- Mae diogelwch data megis dogfennaeth wedi'i chwblhau yn cael ei chadw'n ddiogel ar weinydd diogel.
- Fydd dim angen taflenni amser papur, gan leihau gwallau a gweinyddu.