Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant Gofal Critigol COVID-19

CC2

Mae HCARE wedi darparu hyfforddiant i dros 700 o staff y GIG o Fyrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Aneurin Bevan, i gefnogi argyfwng COVID-19.

Cysylltodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) â Phennaeth yr Ysgol i gyflwyno rhaglen hyfforddi a chadarnhawyd yr addysgu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Cynigiwyd hyfforddiant mewn ffordd hyblyg ond mae'n cynnwys dau ddiwrnod llawn o addysgu ac efelychu sy'n cwmpasu meysydd fel gweithdrefnau diogelwch, asesu llwybrau anadlu, ac awyru ac asesu cardiofasgwlaidd.

Mae academyddion nyrsio a thiwtoriaid sgiliau clinigol wedi bod yn arwain ar hyfforddiant sgiliau gloywi i'r rhai sy'n dychwelyd i'r gweithlu, gweithwyr cymorth gofal iechyd a myfyrwyr nyrsio trydedd flwyddyn mewn partneriaeth â Bwrdd Ysbyty Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Ysbyty Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae academyddion ffisiotherapi, Gary Morris a Sarah Pierrepoint, wedi darparu Hyfforddiant Anadlol i staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a gwirfoddolwyr sy'n bwriadu gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Mae Sarah Pierrepoint hefyd wedi arwain ar ddatblygu deunyddiau dysgu ar-lein i gefnogi adleoli staff ac mae'r rhain ar gael i staff ar draws yr holl UHBs yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb proffesiynol, yn enwedig ar adegau fel y rhain ac rydym am gefnogi ein gweithlu GIG anhygoel a'n cydweithwyr ym mha ffordd bynnag y gallwn. Mae staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn camu i'r adwy i'r heriau a ddaw yn sgil y feirws hwn.
Dr Anna Jones Darllennydd: Nyrsio Oedolion, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (Ol-Raddedig) a DPP

critical care training

Aelodau staff Prifysgol Caerdydd a gyflwynodd hyfforddiant gofal critigol:

Jo Owen, Pete Smith a Wayne Cole, Dr Anna Jones, Neil Thomas, Richard Hellyar, Sian Pritchard, Dr Catherine Dunn, Paul Hennessey, Nelson Selvaraj, Dr Ray Samuriwo, Anthony Pritchard, Andy Parry a Dr Paul Gill. Cefnogir gan y Pennaeth Nyrsio, Sue Ward.