Siaradwch â fi
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae cynyddu maint yr addysg gofal iechyd a ddarparwn drwy gyfrwng y Gymraeg yn arwain at fanteision ar gyfer ymarferwyr a'u cleifion fel ei gilydd. Mae’r darlithydd Gaynor Williams o’n tîm iaith Gymraeg yn dweud mwy wrthym.
Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn gwbl ymroddedig i ddatblygu diwylliant cadarnhaol o fewn yr Ysgol o amgylch y defnydd o'r iaith Gymraeg, gan gynnwys mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg lle bo'n bosibl ar gyfer y rhai a hoffai ddysgu ac ymarfer drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae ein tîm iaith Gymraeg ymroddedig yn sicrhau ymagwedd ragweithiol at ddarparu addysg Gymraeg; mae ein cylch gwaith yn cynnwys cyfrifoldeb am yrru cynnydd yn y ddarpariaeth o addysg Gymraeg ar lefel israddedig yn ogystal â chefnogi myfyrwyr sy'n defnyddio'r Gymraeg yn ystod eu hastudiaethau a chydweithwyr sy'n ymwneud â darparu hyn.
Mae iaith yn rhan annatod o bwy ydym ni. Mae'n wir wrth fynd at ofal iechyd bod cleifion yn aml yn wael, mewn poen, neu’n teimlo'n anarferol o agored i niwed, ac felly mae'n hynod o bwysig ein bod yn gallu cyfathrebu â nhw yn eu hiaith eu hunain. Ond gyda 20% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg, dylai galluogi pobl i gael mynediad at ofal iechyd yn eu hiaith eu hunain fod yn gyraeddadwy i bawb - dylai ymarferwyr allu ymateb i ddewisiadau (ac nid dim ond anghenion) eu cleifion.
Ar y llaw arall, mae'r un mor bwysig bod ymarferwyr yn teimlo'n hyderus mewn lleoliad gofal iechyd wrth reoli cleifion sy'n dymuno siarad Cymraeg . Yn anecdotaidd, mae rhai myfyrwyr wedi teimlo nad ydynt yn barod ar gyfer 'Cymreictod' rhai o'u lleoliadau. Mae'n hanfodol bod y Brifysgol yn ymateb i'r cyfrifoldeb o baratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle trwy normaleiddio defnydd o'r iaith Gymraeg mewn gofal iechyd.
Mae cynyddu argaeledd addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan bwysig o'r broses hon. Yn hanesyddol, mae mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol wedi bod yn un ad hoc, ac yn un sydd wedi amrywio’n fawr ar draws disgyblaethau - er enghraifft, dyrannwyd tiwtoriaid personol a oedd yn siarad Cymraeg ar hap, ac o fewn y rhaglen nyrsio cyn-gofrestru, nid oedd unrhyw gredydau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg; nid oeddem yn gallu cynnig yr opsiwn o gwblhau asesiadau yn y Gymraeg. Yn y ddwy flynedd ers i mi fod yn y swydd, rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen.
Wrth gefnogi polisi iaith Gymraeg y Brifysgol, mae myfyrwyr yn awr yn gallu gofyn am ymgymryd ag asesiadau llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg, ac mae holiaduron cyn-derbyn yn ein helpu i aseinio tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg i'r rhai sy'n gofyn amdanynt, lle y bo'n bosibl. Diolch i gefnogaeth a dull rhagweithiol cydweithwyr ar draws yr Ysgol, rydym wedi nodi 40 credyd mewn nyrsio oedolion, ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a radiograffeg ddiagnostig y bydd myfyrwyr sy'n cofrestru yn 2016 yn gallu eu cwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg, os ydynt yn dymuno. Er mwyn gweithredu ffyrdd newydd o adnabod mentoriaid ac addysgwyr lleoliad ymarfer sy’n siarad Cymraeg ar gyfer myfyrwyr ar leoliad, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ariannu darlithydd cyfrwng Cymraeg newydd. Bydd Anwen Davies, a ymunodd â'r Ysgol ym mis Awst, yn gyfrifol am greu proses glir i alluogi’r myfyrwyr hynny sy'n dymuno ymgymryd â lleoliadau iaith Gymraeg i wneud hynny lle y bo'n bosibl.
Mewn cydweithrediad â’r Ysgol Feddygaeth, yn ddiweddar, dyfarnwyd i ni grant o £31,000 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu cyfleoedd dysgu y gellir eu hailddefnyddio. Cam cyntaf y prosiect oedd datblygu adnoddau e-ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn canolbwyntio ar addysgu sgiliau clinigol - gan gynnwys pwysigrwydd cyfathrebu.
Mae'r rhain yn cynnwys cyfres o ffilmiau byr cyfarwyddiadol sy’n arddangos sgiliau sylfaenol - monitro pwysedd gwaed, cymryd tymheredd, cymorth bywyd sylfaenol - a fydd yn eistedd ar amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol. Ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd y ffilmiau hyn yn ffurfio rhan o’r modiwl Hanfodion Gofal a ymgymerir gan fyfyrwyr nyrsio cyn cofrestru ond maent yn drawsgwricwlaidd o ran eu natur. Nid yn unig y bydd disgyblaethau eraill o fewn yr Ysgolion Gofal Iechyd a Meddygaeth yn gallu eu defnyddio nhw, ond gallant fod ar gael i bob ysgol iechyd yng Nghymru.
Mae prosiectau eraill yn cynnwys cyflwyno clwb cyfnodolion rhyngddisgyblaethol i academyddion Cymraeg sy'n gweithio o fewn y maes gofal iechyd, a darparu gwersi Cymraeg i staff ar gampws Parc y Mynydd Bychan y Brifysgol fel rhan o raglen datblygu staff Coleg y Gwyddorau Biofeddygol yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd gan yr Ysgolion Gofal Iechyd a Meddygaeth. Ac mae rhagor y gallwn ei wneud - mae ymrwymiad yr ysgol i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o'i chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac iechyd yng Nghymru. Gwyliwch y gofod hwn!