Archebu a chasglu eich gwisg academaidd
Mae'n ddigwyddiad ffurfiol, felly mae'n ofynnol i'r holl raddedigion wisgo'n drwsiadus a gwisgo gwisg academaidd drwy gydol y seremoni.
Byddwch yn gwisgo eich gwisg academaidd – het, gŵn a chwfl – ar ben eich dillad arferol. Mae eich seremoni raddio'n achlysur academaidd ffurfiol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo'n drwsiadus i gyd-fynd â ffurfioldeb yr achlysur.
Mae angen i chi archebu eich gwisg academaidd o Ede and Ravenscroft. Bydd lliwiau eich gŵn a'r cwfl yn dibynnu ar eich gradd. Bydd eich gwahoddiad yn rhoi gwybod i chi pa urddwisg i'w harchebu.
Byddwch yn casglu eich gwisg academaidd o Neuadd y Ddinas cyn eich seremoni raddio yn Neuadd Dewi Sant.