Adborth, cwynion ac ad-daliadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 19/07/2022 11:08
Rydyn ni’n croesawu eich adborth a gwybodaeth bellach am eich profiad fel y gallwn wella ein digwyddiadau yn ogystal â phrofiad ein myfyrwyr/graddedigion ar sail barhaus.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i raddedigion 2020, 2021 a 2022.
Rhoi adborth
Rydyn ni wedi neilltuo llawer iawn o amser, gofal a sylw i’r trefniadau graddio, a hynny er mwyn gwneud y digwyddiadau'n arbennig i'n graddedigion a'u gwesteion.
Rydyn ni’n cydnabod ei bod yn bosibl bod gan raddedigion neu westeion sylwadau y maen nhw eisiau eu rhannu am y diwrnod ac rydyn ni’n eich annog i wneud hynny drwy anfon eich adborth drwy ebost i Graduation@caerdydd.ac.uk a byddwn ni’n ymateb ichi.
Gwneud cwyn ffurfiol
Os ydych chi’n fyfyriwr graddedig sy'n dymuno codi cwyn ffurfiol am eich profiad wrth raddio, gallwch chi wneud hynny o dan y Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr.
Sylwer bod yn rhaid i’r cwynion:
- ddod drwy law’r myfyriwr graddedig
- digwydd cyn pen 28 diwrnod ar ôl eich Diwrnod Graddio (a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022)
- cynnwys y ffurflen(ni) wedi'u llenwi - gweler 'dogfennau cysylltiedig' - mae'r ffurflenni'n cynnwys rhagor o fanylion am sut i wneud eich cwyn
- eu hebostio studentcomplaints@caerdydd.ac.uk cyn y dyddiad cau o 28 diwrnod.
Sut y bydd eich cwyn yn cael ei thrin
Caiff yr holl gwynion eu hadolygu fesul achos a byddan nhw’n cael eu hystyried o dan gam 2 yn y Weithdrefn Cwynion Myfyrwyr.
Byddwch chi’n cael ateb awtomatig ar unwaith i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich ebost.
Ein nod yw cysylltu â chi ynglŷn â'ch cwyn cyn pen 21 diwrnod i egluro'r camau nesaf ynghylch ystyried eich achos.
Ad-daliadau
Bydd ad-daliadau yn cael eu hystyried fesul achos os bydd amgylchiadau esgusodol. Mae amgylchiadau esgusodol yn amgylchiadau sydd:
- yn ddifrifol ac yn eithriadol; a
- heb eu rhagweld ac yn anochel, ac
- yn agos at ddiwrnod eich seremoni raddio.
Ad-daliadau'n ymwneud â digwyddiadau cyn Graddio
Os effeithiwyd arnoch chi neu'ch gwesteion oherwydd amgylchiadau esgusodol (cyn dydd eich Graddio), ac roedd hyn wedi'ch rhwystro rhag mynd i’ch Diwrnod Graddio a rhag defnyddio tocynnau, gwisg academaidd neu ffotograffau yr oeddech chi wedi’u harchebu ymlaen llaw ac wedi talu amdanyn nhw, ebostiwch eich cais am ad-daliad i: graduation@caerdydd.ac.uk cyn pen 28 diwrnod ar ôl eich Diwrnod Graddio.
Ad-daliadau'n ymwneud â digwyddiadau yn ystod y Seremoni Raddio neu ar ei hôl
Os ydych yn ceisio ad-daliad oherwydd digwyddiadau ar y diwrnod neu oherwydd eich bod wedi mynychu ond yn anhapus am eich profiad Diwrnod Graddio, defnyddiwch ein gweithdrefn Cwynion a nodir uchod.