Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Yn trawsnewid lleoedd drwy feddwl yn feirniadol ac ymgysylltu cyhoeddus.

Cyrsiau

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau isradeddig, ôl-raddedig a addysgir ac ôl-raddedig ymchwil.

Ymchwil yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Rydym yn chwarae rhan flaenllaw mewn ymchwiliad academaidd sy'n gysylltiedig â datblygiad, rheolaeth a chynaliadwyedd dinasoedd, rhanbarthau a mannau gwledig.

Rhagor o wybodaeth am Ddaearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd. (Mae’r fideo ar gael yn Saesneg yn unig).
World map

Prosiectau

Rydym wedi ennill arian ar gyfer amrywiaeth o wahanol brosiectau ymchwil.

Glamorgan building committee rooms

Digwyddiadau

Rydym yn cynnal rhaglen o ddigwyddiadau sy'n galluogi amrywiaeth o gynulleidfaoedd i ymgysylltu â'n gwaith.

Group of three students sat outside a university building

Myfyrwyr rhyngwladol

Dysgwch ragor am y gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig i sicrhau eich bod yn ymgartrefu'n gyflym ac yn dechrau ffynnu yn ein cymuned gyfeillgar a bywiog.


Right quote

Mae’r Ysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi gwahanol. Mae gallu cael gafael ar gynghorwyr gyrfaoedd a chael amseroedd cyswllt rheolaidd gyda thiwtoriaid yn ddefnyddiol ac yn rhywbeth y baswn yn ei argymell i bawb fanteisio arno cyn gynted â phosibl. Mae defnyddio meddalwedd arloesol ym maes addysgu fel Menti (teclyn arolwg barn rhyngweithiol lle gallwch osod cwestiynau a chasglu ymateb y gynulleidfa drwy ddyfeisiau cysylltiedig) yn galluogi myfyrwyr i ryngweithio yn ystod dosbarthiadau. Mae cael gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant i roi darlithoedd yn ddifyr hefyd, ac mae cydweithio ag arbenigwyr yn y diwydiant yn rhywbeth na chaiff ei gynnig ar lawer o gyrsiau.

Hasnain Ikram, BSc Cynllunio a Datblygu Trefol

Newyddion