Ewch i’r prif gynnwys

'Voices of 68' Exhibition by Dr Chris Reynolds

Calendar Dydd Mawrth 19 Mawrth 2019, 09:00-Dydd Mawrth 26 Mawrth 2019, 17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Montage of black and white photos showing protesters

Arddangosiad gan Dr Chris Reynolds sy’n portreadu digwyddiadau yn Iwerddon ym 1968. Caiff ei harddangos yng nghyntedd yr Ysgol Ieithoedd Modern am un wythnos rhwng 19-26 Mawrth. Mae’r arddangosfa wedi denu llawer o ddiddordeb cenedlaethol ac yn cael ei chynnal mewn 20 o leoliadau ar draws y DU.

Bydd Dr Reynolds yn rhoi cyflwyniad am Amgueddfeydd a ‘Hanesion Anodd’: 1968 yng Ngogledd Iwerddon, sydd yn agored i bawb, ar ddydd Mercher 20 Mawrth rhwng 17:00 – 18:00.

BywgraffiadMae Chris Reynolds yn Athro Cyswllt mewn Astudiaethau Ffrengig ac Ewropeaidd Cyfredol ym Mhrifysgol Nottingham Trent. Mae prif ddiddordebau ymchwil Dr Reynolds yn gysylltiedig â digwyddiadau 1968. Ar ôl canolbwyntio’n wreiddiol ar y digwyddiadau yn Ffrainc ym mis Mai 68, mae bellach wedi ehangu ei ddadansoddiad i archwilio’r cyfnod o safbwynt Ewropeaidd. Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau am y digwyddiadau yn Ffrainc, a chyhoeddodd ei fonograff cyntaf yn 2011: Memories of May ‘68: France’s Convenient Consensus (Gwasg Prifysgol Cymru). Mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig ag ymchwil ynghylch digwyddiadau 1968 yng Ngogledd Iwerddon, ac yn 2015 cyhoeddodd ei ail fonograff o dan y teitl Sous les paves... The Troubles: France, Northern Ireland and the European Collective memory of 1968 (Peter Lang 2015).

Ar hyn o bryd, mae’n arwain prosiect ymchwil sylweddol rhwng Prifysgol Nottingham Trent (NTU) ac Amgueddfa Ulster ynglŷn â 1968 yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r arddangosfa hwn a’r seminar cysylltiedig yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau gwleidyddol a chymdeithasol arwyddocaol yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1965 ac 1972, a sut mae’r digwyddiadau hyn wedi’u portreadu 50 mlynedd yn ddiweddarach.

Gweld 'Voices of 68' Exhibition by Dr Chris Reynolds ar Google Maps
School of Modern Languages foyer
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn