Ewch i’r prif gynnwys

Amser am Newid: Gwella Gofal a Chefnogaeth i Bobl ag Anableddau Dysgu

Dydd Mawrth, 12 Mawrth 2019
Calendar 09:00-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Time for Change: Improving Care and Support for People with Learning Disabilities

Dros y blynyddoedd diweddar, mae sawl ymchwiliad wedi datgelu manylion dirdynnol o gam-drin ac esgeuluso pobl sydd ag anableddau dysgu mewn sefydliadau sydd i fod i ofalu drostynt. Dros y flwyddyn ddiwethaf, canfu Prifysgol Bryste i un ym mhob wyth marwolaeth o bobl ag anableddau dysgu mewn gofal gael ei heffeithio gan fethiannau gofal (Adolygiad Marwoldeb o bobl ag Anableddau Dysgu, 2018). Mae’r canfyddiadau wedi canu larwm yn y sector, ac yn galw am sylw craff. Maent hefyd wedi sbarduno trafodaeth am sut rydym yn gweld ac yn trin y rhai sydd ag anableddau dysgu’n gyfartal ag eraill. Cafodd y gynhadledd hon ei dylunio ar gyfer y sefydliadau a’r ymarferwyr gofal hynny sydd wedi ymrwymo i roi gofal eithriadol i bobl ag anableddau dysgu gan gynnig cefnogaeth, yn ogystal â’r cyfle i ffynnu. Rydym yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a chyd-destunau. Hefyd, rydym wrth ein boddau yn cynnal panel o bobl sy’n brofiadol o ran gofalu am bobl ag anableddau dysgu, fydd yn rhannu eu safbwyntiau ar ein trafodaethau.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim. Mae cofrestru’n hanfodol. Bydd methu dod neu roi rhybudd o ganslo ddau ddiwrnod gwaith ymlaen llaw yn arwain at ffi canslo o £30 i gyflogwyr y cynrychiolydd. Mae hyn yn bolisi cyffredinol, a bydd ar waith ni waeth beth fo’r amgylchiadau. Bydd ExChange yn gwarchod seddi a gedwir os ydych yn rhoi rhybudd i ni y bydd rhywun yn dod yn eich lle.

Llancaiach Fawr Manor
Llancaiach Fawr Manor
Gelligaer Road
Nelson
Caerphilly
CF46 6ER

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Events for Disabled Students