Ewch i’r prif gynnwys

Dinas y dyfodol: cynhyrchiol, cynhwysol ac effeithlon o ran adnoddau?

Dydd Gwener, 7 Rhagfyr 2018
Calendar 09:30-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Future Cities

Bydd y seminar hanner diwrnod hon yn dod ag academyddion amlwg a rhanddeiliaid allanol ynghyd i edrych ar sut gall datblygiad ‘dinasoedd clyfar’ ac offer cysylltiedig megis data mawr, synwyryddion cysylltiedig a chyfrifiadura gwybyddol helpu i ddeall a mynd i’r afael â heriau trefol.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys: Yr Athro Chris Rogers, Prifysgol Birmingham, Yr Athro Duncan Wilson, Canolfan Coleg y Brifysgol Llundain ar gyfer Dadansoddi Gofodol Uwch, Yr Athro Elena Simperl, Prifysgol Southampton, Yr Athro Peter Madden a Yr Athro Rob Huggins, Prifysgol Caerdydd, ac Isabelle Bignall, Prif Swyddog Technoleg yng Nghyngor Dinas Caerdydd.

Bydd y siaradwyr a’r panelwyr yn edrych ar effaith technoleg glyfar ar dri maes thematig:

  • Y Ddinas Gynhyrchiol
  • Y Ddinas Gynhwysol
  • Y Ddinas Effeithlon o ran Adnoddau.

Bydd y sesiwn yn helpu i ddylanwadu ar ein gwaith ymchwil ym maes Dinasoedd y Dyfodol.

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, a gallwch gadw lle yma

* Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.

Gweld Dinas y dyfodol: cynhyrchiol, cynhwysol ac effeithlon o ran adnoddau? ar Google Maps
Committee Rooms 1 & 2
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn