Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Amlieithrwydd Creadigol Caerdydd-Rhydychen

Dydd Sadwrn, 13 October 2018
Calendar 10:30-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Ar Ddydd Sadwrn, 13eg Hydref, bydd Prifysgolion Caerdydd a Rhydychen yn dod at ei gilydd ar gyfer diwrnod o hwyl ieithyddol i ddisgyblion blwyddyn 11 fel rhan o'r Prosiect Amlieithrwydd Creadigol.

Mi fydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau ynglŷn â phaham y dylech astudio ieithoedd ar ôl TGAU ac opsiynau gyrfa gwahanol lle gall ieithoedd bod o fantais. Yn ogystal, mi fydd yna weithdai lle byddwch yn rhoi eich sgiliau iaith ar waith.  Mi fydd y gweithdai yn eich annog i ehangu eich gwybodaeth o'r ieithoedd yr ydych eisoes yn eu hastudio tu hwnt i'r cwricwlwm ysgol, gan hefyd roi'r cyfle i chi brofi iaith newydd a defnyddio eich ieithoedd mewn ffordd greadigol.

Mi fydd yna gyfle i rieni a gwarchgeidwaid dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio ieithoedd mewn prifysgolion a'r llwybrau gyrfaoedd posibl ar gyfer ieithyddion yn y sesiwn agoriadol. Mae croeso i unrhyw riant neu warchgeidwad sy'n cludo eu plentyn i'r digwyddiad fynychu'r sesiwn yma.

Bydd angen i bob disgybl sydd am fynychu'r digwyddiad gofrestru yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/diwrnod-amlieithrwydd-creadigol-creative-multilingualism-day-tickets-49849169207

Gweld Diwrnod Amlieithrwydd Creadigol Caerdydd-Rhydychen ar Google Maps
MLANG
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn