Ewch i’r prif gynnwys

Darlith y Gymdeithas Astudiaethau Ffrengig Lydie Salvayre a Bywgraffiadau Trawsieithol

Dydd Mercher, 31 October 2018
Calendar 15:00-16:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith sydd wedi eu cyd-drefnu gyda'r themâu Ffiniau & Chyrff, a Chyfieithu, Addasu a Pherfformia, fel rhan o'r gyfres seminarau ymchwil yr Ysgol gyda'r ysgolhaig gwadd, y Darlithydd Cyswllt Natalie Edwards (Prifysgol Adelaide). Mae'n ganlyniad cais llwyddiannus i gynllun Cymrodoriaeth Gwadd Rhyngwladol y Gymdeithas Astudiaethau Ffrengig. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan dderbyniad gwin yng nghyntedd yr Ysgol i ddilyn: 16:30 – 17:30.

Crynodeb

Mae'r papur hwn yn rhan o brosiect llyfr sy'n archwilio'r modd y mae awduron dwyieithog yn ysgrifennu am fywyd. Mae ysgolheictod diweddar ym maes ieithyddiaeth gymhwysol yn cwestiynu'r hyn a ddeallir am ddwyieithrwydd ac yn damcaniaethu ynghylch dulliau newydd megis "dwyieithrwydd dynamig" neu "trawsieithu" (Ofelia García). Mae'r damcaniaethau hyn yn herio'r ddealltwriaeth draddodiadol ynghylch dwyieithrwydd, sy'n seiliedig ar ddwy iaith yn gweithio mewn unedau cynnil. Yn hytrach, mae damcaniaethwyr trawsieithu yn dangos y gellir deall dwyieithrwydd fel dwy iaith yn dod ynghyd mewn ffyrdd trawsnewidiol, gan greu gramadeg, ystyr a goddrychedd newydd. Mae hyn yn cynnig cryn botensial i'n dealltwriaeth o lenyddiaeth sydd wedi'i ysgrifennu mewn mwy nag un iaith. Gan ddefnyddio'r dull hwn, rwy'n gofyn cwestiynau fel: sut mae awduron yn newid rhwng un iaith a'r llall yn eu hunangofiannau? Sut maen nhw'n trawsnewid dwy iaith er mwyn dyfeisio ffurfiannau dwyieithog newydd?  Sut maen nhw'n creu fformwleiddiadau newydd o oddrychedd o fewn yr hyn y maent yn ei ysgrifennu am eu bywydau?  Rwy'n canolbwyntio ar Lydie Salvayre. Mudodd ei theulu i Ffrainc fel ffoaduriaid Rhyfel Cartref Sbaen. Mae Salvayre wedi cyhoeddi'n helaeth yn Ffrangeg, ac wedi cyflwyno'r Sbaeneg i'w gwaith yn ddiweddar. Mae'r cyflwyniad hwn yn archwilio Pas pleurer, yr enillodd Salvayre y Prix Goncourt amdano yn 2014. Yn y lle cyntaf, rwy'n dadansoddi'r modd y mae Salvayre yn cynnwys geirfa Sbaeneg yn ei thestun, gan greu tapestri dwyieithog sy'n benthyg eitemau geirfaol o’i dwy iaith. Yna, rydw i’n archwilio arloesedd penodol ei thestun, sef y modd y mae'n ymdrîn â gramadeg Ffrangeg; mae'n newid cystrawen a strwythur y Ffrangeg drwy gyfrwng cyfieithiad llythrennol o'r Sbaeneg. Yn y modd hwn, mae hi'n trawsnewid y Ffrangeg a'r Sbaeneg fel ei gilydd, ar yr un pryd, gan greu gramadeg ddeuol sy'n creu lle iddi lefaru ei goddrychedd. Mae ei hunan-naratif, felly, yn herio normau ieithyddol y Ffrangeg a phatrymau ysgrifennu am fywyd, wrth iddi greu dynodydd ieithyddol newydd ar gyfer mynegi deuoliaeth ei hunaniaeth.

Bywgraffiad

Bydd yr Athro Cyswllt Natalie Edwards yn ysgolhaig ar ymweliad yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym misoedd Hydref a Thachwedd. Mae’n hi’n arbenigo mewn llenyddiaeth gyfoes, ysgrifennu gan fenywod, theori ffeministaidd, ysgrifennu am fywyd ac astudiaethau Ffrengig. Mae ei llwybr gyrfa yn hynod ryngwladol. Cafodd yr Athro Cyswllt Edwards ei geni ym Mhrydain ac mae hefyd yn ddinesydd yn yr UDA ac Awstralia. Mae ganddi BA (Anrh.) o Brifysgol Caerfaddon a chafodd ei Doethuriaeth o Brifysgol Northwestern, Chicago, yn 2005. Daeth yn Athro Cynorthwyol yn y Ffrangeg y flwyddyn honno, ac wedyn yn Athro Cyswllt gyda Tenure yn 2011, yng Ngholeg Wagner, prifysgol fach a phreifat yn Efrog Newydd. Symudodd i Brifysgol Adelaide yn 2012. Mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr ar ei phen ei hun: Shifting Subjects: Contemporary Francophone Women’s Autobiography (2011) a Voicing Voluntary Childlessness: Narratives of Non-Mothering in French (2016). Mae’r Athro Cyswllt Edwards hefyd wedi cyd-olygu pum llyfr a phum cyfrol o gyfnodolion. Mae wedi cyhoeddi dros ddeg ar hunain o erthyglau mewn cyfnodolion rhyngwladol uchel iawn eu parch, megis French Cultural Studies, The French Review, Contemporary French and Francophone Studies, The Australian Journal of French Studies, A/b: Autobiography Studies The Irish Journal of French Studies. Mae’r Athro Cyswllt Edwards yn gweithio ar ei thrydedd ysgrif ar hyn o bryd, Translingual Selves, sy’n trin a thrafod ysgrifennu am fywyd gan awduron benywaidd dwyieithog. Mae ei fframwaith damcaniaethol yn seiliedig ar gyfieithu.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 17 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg; yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.