Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Rhyngwladol

Dydd Llun, 9 Gorffennaf 2018
Calendar 09:30-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd y ffair ac arddangosfa undydd hwn, sydd YN RHAD AC AM DDIM, yn cynnig amrywiaeth o sesiynau ar gyfer pobl ifanc blwyddyn 5 a 6, gan gynnwys dawns a sesiynau blasu Almaeneg a Mandarin. Dewch i brofi ieithoedd a diwylliannau yn ein Diwrnod Rhyngwladol, a gweld sut y gall siarad iaith arall eich galluogi i ehangu eich gorwelion!

Rhaglen

  • 9.30-10.15       Cofrestru [Darlithfa 4]
  • 10.15-10.30     Croeso
  • 10.30-11.15     Sesiwn 1
  • 11.30-12.15     Sesiwn 2
  • 12.15-12.45     Cinio [Darlithfa 4]
  • 12.45-13.45     Sesiwn 3
  • 13.45-14.00     Diwedd [Darlithfa 4]

Sesiynau

  • Sesiwn Blasu Almaeneg, gan Goethe Institut. [Darlithfa 5]
  • Sesiwn Blasu Tsieinëeg Mandarin, gan Sefydliad Confucius. [Darlithfa 3]
  • Dawns Tsieineaidd, gan Sefydliad Confucius. [Darlithfa 2]

Telerau ac Amodau- Mae llefydd yn brin ac felly fe"u dyrennir ar sail y cyntaf i’r felin. Hefyd ar gyfer y gweithdai. Uchafswm o 30 disgybl o bob ysgol.

O’r herwydd, gofynnir i chi"n hysbysu o unrhyw newidiadau i"r niferoedd, a hynny o leiaf ddeng niwrnod gwaith cyn y digwyddiad ei hun.

Fe gaiff lluniau eu tynnu drwy gydol y digwyddiad i’w defnyddio at ddibenion hyrwyddo. Gwnewch yn sicr eich bod wedi cael caniatâd priodol gan rieni. Rhowch wybod i ni ar ddechrau’r diwrnod os nad ydych yn dymuno inni dynnu llun ohonoch.

Dydy’r bwyd ddim yn cael ei gynnwys. Plîs, wnewch chi ddod â brechdanau o adref.

Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/international-day-tickets-47015030221

Cysylltiad: Rubén Chapela-Orri, r.chapela@bangor.ac.uk.

Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Gwynedd
LL57 2DG

Rhannwch y digwyddiad hwn