Ewch i’r prif gynnwys

Ffair Wybodaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Dydd Iau, 26 Medi 2019
Calendar 10:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Students talking

Ymunwch â ni yn ein Ffair Wybodaeth, a gynlluniwyd i roi gwybodaeth hanfodol i fyfyrwyr israddedig newydd.

Rhagor o wybodaeth ynghylch:

  • Gwasanaethau Cefnogi - beth sy’n cael ei gynnig a sut i gael gafael ar wasanaethau
  • Cyfleoedd ychwanegol - dysgu iaith yn rhad ac am ddim, gwybodaeth am yrfaoedd a mentrau cyflogadwyedd, cael gwybod am wirfoddoli yn ogystal â lleoliadau gwaith ac ymchwil
  • Gwybodaeth hanfodol - gan gynnwys gwasanaethau llyfrgell, TG, ailgylchu, atal troseddau a chyngor ynghylch diogelwch

Gallwch hefyd ddefnyddio bwth tynnu lluniau LinkedIn i gael llun proffil rhad ac am ddim a rhoi cynnig ar ein raffl.

Dyma eich cyfle delfrydol i gwrdd â myfyrwyr eraill a bydd staff wrth law hefyd i ateb eich cwestiynau a’ch cyfeirio at wasanaethau pellach.

Sgyrsiau defnyddiol

Ewch i amrywiaeth o sgyrsiau i gael gwybod am y gwasanaethau sydd ar gael drwy Undeb y Myfyrwyr, y gefnogaeth a ddarperir yn ystod eich cyfnod yn byw mewn preswylfeydd Prifysgol, cyllidebu a chyllido, a sut i ddechrau cynllunio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.  Bydd sesiwn galw heibio hefyd i gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anableddau.

Bydd pob sgwrs yn cael ei chynnal yn Adeilad Syr Martin Evans, Rhodfa’r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX yn narlithfa C/-1.04, sydd ar y llawr gwaelod isaf.  

 Sesiwn y bore*Sesiwn y Prynhawn*
Undeb y Myfyrwyr11:10 – 11:2514:40 – 14:55
Bywyd Preswyl11:30 – 11:4515:00 – 15:15
Cyllidebu i Fyfyrwyr11:50 – 12:0515:20 – 15:35
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd12:10 – 12:3015:40 – 16:00
Sesiwn Galw Heibio Anabledd a Dyslecsia12:35 – 13:20 

*Gweler amserlen ymsefydlu eich Ysgol Gartref i weld yr amser a bennwyd i chi ar gyfer eich sesiwn.

Peidiwch â cholli’r cyfle perffaith i gael gwybod am yr ystod eang o wasanaethau cefnogi a chyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd!


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Welcome and induction events