Ewch i’r prif gynnwys

Hinsawdd, haenau iâ a lefel y môr: Gwersi o’r gorffennol

Dydd Iau, 17 Mai 2018
Calendar 18:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Black and white image of fossil plankton

O eira a phengwiniaid i grocodeiliaid yr Antarctig - y newid yn yr hinsawdd yw hanes daearegol diweddar y Ddaear.
Mae geocemeg ffosiliau plancton bychain yn gyfle i ail-greu newidiadau yn y crynodiadau carbon deuocsid, tymheredd a maint haenau iâ.

Gellir defnyddio'r cofnodion hyn i ddeall sut mae system hinsawdd y Ddaear yn gweithio, gan gynnwys adborth cymhleth sy'n cynyddu'r newid yn yr hinsawdd. Gallwn ddefnyddio'r gwersi hyn i wella modelau o haenau iâ, gyda goblygiadau pwysig i'n rhagfynegiadau o sefydlogrwydd haenau iâ yn y dyfodol a’r cynnydd yn lefel y môr.

Ymunwch â ni am luniaeth o 5pm ymlaen yn Oriel VJ (Prif Adeilad) a hefyd ar ôl y ddarlith.

Gweld Hinsawdd, haenau iâ a lefel y môr: Gwersi o’r gorffennol ar Google Maps
Shandon Lecture Theatre
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn