Ewch i’r prif gynnwys

Brexit: diweddariad

Dydd Mercher, 28 Tachwedd 2018
Calendar 17:30-19:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd un o wleidyddion mwyaf adnabyddus y DU, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Michael Heseltine, yn traddodi Darlith Nodedig Hadyn Ellis eleni ddydd Mercher 28 Tachwedd 2018.

Erbyn mis Tachwedd eleni, bydd pwysau cynyddol ar y DU a'r UE i gytuno ar delerau Brexit. Bydd yr Arglwydd Heseltine yn myfyrio ar y cytuniad drafft hwn, ac yn dod a'i brofiad helaeth fel cyn Ddirprwy Brif Weinidog ac un o brif feirniaid yr ymgyrch i adael yr UE.

Beth fydd telerau'r broses adael yn ei olygu i ddyfodol masnach y DU? Beth fydd hyn yn ei olygu ar gyfer yr undeb rhwng pedair cenedl y DU? A fydd y cynigion yn gallu cael digon o gefnogaeth wleidyddol i gael eu cymeradwyo gan Senedd y DU? Bydd y ddarlith hon yn gyfle i glywed syniadau un o seneddwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth o lygad y ffynnon, ac i ystyried goblygiadau un o'r heriau gwleidyddol mwyaf sydd o'n blaenau.

17:30 - Derbyniad diodydd
18:30 - Darlith
19:45 - Diwedd y digwyddiad

Wrth gofrestru, noder y bydd eich data yn cael ei gadw yn unol â'n datganiad preifatrwydd, sydd ar gael yma.

Gweld Brexit: diweddariad ar Google Maps
Julian Hodge Lecture Theatre
Julian Hodge Building
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn