Ewch i’r prif gynnwys

Aliwns, arbrofion, ac amrywiad iaith

Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2022
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae pob iaith yn amrywio ac yn newid, ac mae cenedlaethau o ymchwilwyr wedi eu hymroi i astudiaeth dynameg yr amrywiad hwn. O ble mae amrywiad ieithyddol yn dod? Sut mae ffurfiau ieithyddol yn lledaenu trwy boblogaeth? Seilir craidd ymchwil o'r fath ar ddata ieithyddol yn deillio o gyd-destunau naturiol, yn ogystal ag arbrofion seicoieithyddol a ganiatânt reolaeth ar draul naturioldeb. Ond, fel arfer, ni chaniatâ y dulliau hyn lawer o obaith o weld iaith yn newid o flaen ein llygaid. Yn y ddarlith hon fe gyflwynaf enghreifftiau o arbrofion lle y caniateir hyn i raddau llawer mwy helaeth. Fe’i ganiateir trwy ddefnyddio ieithoedd “arallfydol” bychain y gofynnir i gyfranogion eu dysgu (neu greu) a defnyddio mewn gemau cyfrifiadurol syml. Darpara’r dull hwn gryn reolaeth dros newidynnau [GR1] ieithyddol, cyd-destunol, a chymdeithasol, yn ogystal â’r gobaith o weld newid iaith yn digwydd mewn modd ailadroddadwy yn y labordy.

Traddodir y seminar yn Gymraeg dros Zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn