Ewch i’r prif gynnwys

Jack Tars Tramor: Morwyr Mewnfudol yn Llynges Nelson

Dydd Mercher, 26 Ionawr 2022
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Battle of Trafalgar

Ar gyfer sgwrs mis Ionawr, mae’n bleser mawr gennym groesawu Dr Sara Caputo (Coleg Magdalene, Prifysgol Caergrawnt) yn ôl i Gaerdydd, i siarad ar y thema 'Foreign Jack Tars: Immigrant Sailors in ‘Nelson’s Navy’, 1793-1815’:
Yn ystod y Chwyldro Ffrengig a’r Rhyfeloedd Napoleonaidd, bu llawer o filoedd o forwyr tramor yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol Brydeinig. Gan elwa ar lyfr arfaethedig Caputo ar y pwnc, bydd y sgwrs hon yn trafod o ble roedden nhw’n dod, pa rai oedd eu profiadau a'u cymhellion, a'r ffyrdd roedd y Llynges wedi llyncu ac ymgorffori eu llafur.
Byddwn ni’n anfon dolen Zoom ar gyfer y digwyddiad at bawb sydd wedi cofrestru. Bydd yn cyrraedd ar ddechrau’r wythnos pan fydd y cyflwyniad yn cael ei gynnal. Nodwch y bydd y ddolen Zoom yn cyrraedd drwy ebost gan Dr Paul Webster ac nid drwy Eventbrite. Os na fyddwch chi wedi derbyn dolen Zoom erbyn canol dydd ar 26 Rhagfyr, ebostiwch Paul (websterp@caerdydd.ac.uk) a bydd yn ei hanfon atoch chi.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series