Ewch i’r prif gynnwys

Llygredd Aer ac Iechyd y Cyhoedd: sut mae'r DU yn gwneud y tu allan i'r UE? Yr Athro Frank Kelly, Coleg Imperial, Llundain

Dydd Iau, 13 Ionawr 2022
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

SiH public lecture series logo

Mae aer glân, fel dŵr glân a bwyd heb ei halogi, yn hanfodol i iechyd da. Rydym i gyd yn gwybod bod llygredd aer yn gwneud niwed i’n hiechyd, ac eto nid ydym yn aml yn sylweddoli maint y broblem.  Bob blwyddyn, mae 7 miliwn o bobl ledled y byd, ac oddeutu 34,000 o bobl yn y DU, yn marw cyn pryd o ganlyniad i lygredd aer. 

Ar ôl blynyddoedd o oedi a dadlau, daeth Deddf yr Amgylchedd yn gyfraith yn y DU yn 2021. Fodd bynnag, wrth i safonau ystyrlon ar gyfer ansawdd aer amgylchynol gael eu mabwysiadu’n araf yn y DU, mae ffocws yr agenda ymchwil yn newid yn gyflym i ansawdd aer dan do. Mae cymhlethdod cynyddol aer dan do’n golygu bod angen gwneud llawer mwy o waith i wella dealltwriaeth o’i oblygiadau posibl i’n hiechyd.

Rhannwch y digwyddiad hwn