Ewch i’r prif gynnwys

Carolau o Amgylch y Goeden 2021

Dydd Mercher, 15 Rhagfyr 2021
Calendar 16:00-16:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd ein cymuned fyd-eang o Brifysgol Caerdydd yn dod ynghyd yn rhithwir y Nadolig hwn ar gyfer ein digwyddiad blynyddol, Carolau o Amgylch y Goeden. Ymunwch â chydfyfyrwyr, staff, cynfyfyrwyr a ffrindiau ar gyfer dathliad arbennig sy'n cynnwys perfformiadau gan fyfyrwyr o'r Ysgol Cerddoriaeth.

Bydd ein cyngerdd Carolau o Amgylch y Goeden yn cael ei darlledu'n fyw ar YouTube ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021, 4pm (GMT). Nid oes angen cofrestru ar ei chyfer, dim ond ei hychwanegu at eich calendr a dilyn y dolenni i ymuno â ni ar-lein pan mae’n dechrau.

Byddwch yn barod gyda’ch mins pei ac ymuno â chymuned Caerdydd i rannu hwyl yr ŵyl.

Gwyliwch ar-lein

Cefnogi ymchwil i iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth Prifysgol Caerdydd

Gall y Nadolig fod yn amser anodd i unrhyw un sy'n cael trafferth â'u hiechyd meddwl. Dyna pam mae'r ymchwil i iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth sy'n cael ei chynnal yma yng Nghaerdydd mor bwysig. Yn lle ein casgliad bwced arferol, gellir rhoi rhoddion ar-lein trwy JustGiving neu gallwch gyfrannu trwy neges destun. Tecstiwch CAROLS ac yna swm eich rhodd i 70580 i roi'r swm hwnnw (e.e. CAROLS £10). Bydd testunau'n costio swm y rhodd ynghyd ag un neges cyfradd rhwydwaith safonol. Bydd rhoddion yn helpu i wella diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod eang o gyflyrau, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â stigma. Byddwn yn ddiolchgar iawn am beth bynnag y gallwch ei fforddio.

Rhannwch y digwyddiad hwn