Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Jakob Schneebacher, Office for National Statistics

Dydd Mawrth, 16 Tachwedd 2021
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

audience online

Goblygiadau'r Arolwg Rheoli a Disgwyliadau diweddaraf ar Gynhyrchedd

Mae astudiaethau byd-eang yn dangos bod rheolaeth yn bwysig ar gyfer canlyniadau pendant. Mae cwmnïau a reolir yn well yn tueddu i fod yn fwy o faint, yn fwy cynhyrchiol, ac yn fwy tebygol o oroesi ar draws diwydiannau ac ar draws gwledydd.

Yn y Sesiwn dros Frecwast hwn, bydd Jakob Schneebacher o’r Swyddfa Ystadegol Gwladol (ONS) yn yr hyn y gall Arolwg Rheoli a Disgwyliadau’r ONS ei ddweud wrthym am gyflwr presennol arferion rheoli ym Mhrydain. Ym mha ffordd mae’r defnydd o arferion rheoli strwythuredig wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Pa fathau o gwmnïau sydd wedi gwella mwyaf? A sut mae cwmnïau sydd wedi’u rheoli’n well wedi llwyddo yn ystod y pandemig?

Bydd y sesiwn hwn yn rhoi cyfle arbennig i ddysgu am y berthynas rhwng arferion rheoli, cynhyrchiant ac arloesedd mewn busnesau ym Mhrydain, ac i gymhwyso’r gwersi hyn i’r adferiad ôl-bandemig.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education