Ewch i’r prif gynnwys

Lansio Trafod Gwrth-hiliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gyda Nova Reid a Matthew Williams

Dydd Mawrth, 26 October 2021
Calendar 11:00-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Talking Anti-Racism

Ymunwch â ni ar gyfer lansiad cyfres newydd o ddarlithoedd yn trafod gwrth-hiliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac rydym yn falch iawn o groesawu Nova Reid, siaradwr TED, actifydd gwrth-hiliaeth ac awdur.

Bydd yr ymgyrchydd gwrth-hiliaeth Nova Reid yn ymuno â Matthew Williams, Athro Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr HateLab i drafod ei llyfr newydd 'The Good Ally' sy'n gofyn i'r darllenydd: sut ydyn ni'n dod yn wirioneddol wrth-hiliol?

Bydd Nova hefyd yn trafod ei waith gyda HateLab a'i lyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar 'The Science of Hate', sy'n trin a thrafod sut mae rhagfarn yn dod yn gasineb a beth allwn ei wneud i'w atal.

#TrafodGwrthHiliaeth

Trafod Gwrth-hiliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd

Bydd ein cyfres newydd o ddigwyddiadau cyhoeddus ar-lein yn dod ag arbenigwyr yn ein Hysgolion ynghyd yng nghwmni siaradwyr gwadd arbenigol i ddechrau trafodaethau pwysig ar hil.

Trefn y Digwyddiad     Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.  

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r blwch cwestiynau ar Zoom yn ystod y sesiwn holi ac ateb.  

Cofrestru   Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.  

Hysbysiad Diogelu Data  

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfres darlithoedd cyhoeddus Trafod Gwrth Hiliaeth, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. 

Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.   

Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i Brifysgol Caerdydd brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch am gyfres darlithoedd cyhoeddus Trafod Gwrth-Hiliaeth.   

Gallwch dynnu’r cydsyniad hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â CU-Events@caerdydd.ac.uk.  

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Black History Month; Talking Anti-Racism