Ewch i’r prif gynnwys

Planetary Health: Transformative thinking to address health challenges

Dydd Gwener, 19 Tachwedd 2021
Calendar 12:30-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

sustainable 2

Iechyd y Blaned: Meddwl trawsnewidiol i fynd i'r afael â heriau iechyd

Yn y digwyddiad hwn byddwn yn archwilio syniadau a chysyniadau ar draws gwahanol arbenigeddau disgyblaethol a phrofiadau cymunedol; gyda'n hagenda wedi ei ffocysu ar adeiladu datrysiadau sy’n hyrwyddo iechyd a lles pobl, a lles planhigion, anifeiliaid a bywyd planedol yn ehangach, drwy ddysgu ar y cyd ac atebion a rennir.

  • Pryd: 12:30-4yh, Dydd Gwener 19eg o Dachwedd 2021
  • Ble: Ar-lein, cofrestrwch i dderbyn dolen I’r digwyddiad.

Siaradwyr Gwadd

  • Yr Athro Tony Capon, Cyfarwyddwr y Monash Sustainable Development Institute (Melbourne, Awstralia)
    Mae gan Tony dros ddau ddegawd o brofiad uwch reolwyr yn ymgynghori ar gyfer sefydliadau byd-eang ar bolisi iechyd cyhoeddus, ymchwil ac addysg. Mae'r Athro Capon hefyd yn gadeirydd mewn Iechyd Planedol yn y  School of Public Health and Preventive Medicine ym Mhrifysgol Monash
  • Yr Athro Rachael Gooberman-Hill, Athro mewn Iechyd ac Anthropoleg a Chyfarwyddwr yr Elizabeth Blackwell Institute for Health Research.  
    Mae ymchwil yr Athro Gooberman-Hill yn cymhwyso technegau o anthropoleg mewn ymchwil iechyd cymhwysol. Mae hi hefyd yn gweithio o fewn timau rhyngddisgyblaethol, sy'n cyflwyno ymchwil yn y DU ac ar draws y byd.
  • Yr Athro Les Baillie, Athro mewn Microbioleg a Phrif Ymchwilydd  Pharmabees

Cyn ymuno â'r ysgol Fferylliaeth yng Nghaerdydd, bu'r Athro Baillie yn gweithio yn yr Unol Daleithiau yn ymchwilio i wrthfesurau meddygol i fynd i'r afael â bygythiadau biolegol byd-eang. Mae prosiect Pharmabees yn archwilio sut y gallai peillio rhai planhigion arwain at ddatblygu cyffuriau i drin cyflyrau meddygol difrifol

  • Janis Werrett, Sylfaenydd Cynon Valley Organic Adventures.
    Janis yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Cynon Valley Organic Adventures; safle cadwraeth pum erw a ardd gymunedol sy’n hwyluso gwasanaethau presgripsiwn-gwyrdd i'r gymuned ac hefyd yn datblygu sgiliau drwy ddarparu cyrsiau dysgu achrededig ar pobl o bob oed.

Gweithdai o 2:30pm Gwahoddir y rhai sy'n bresennol i ymuno ag un o’r gweithdai canlynol: Bydd cyfle i gyfranogwyr gyflwyno eu hunain a chynnig syniadau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn defnyddio'r gweithdai hyn i drafod y ffyrdd gorau o hwyluso gweithio mewn modd rhyngddisgyblaethol a nodau cyffredin i fynd i'r afael â heriau iechyd ac amgylcheddol byd-eang.

* Iechyd a Chyfiawnder Bydol: Camau gweithredu ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, trawsnewidiadau cyfiawn, ac effeithiau iechyd pobl ar yr amgylchedd.

* Cysylltiadau Gwyddoniaeth-Cymdeithas: Camau gweithredu ar gyfer mynediad at, a defnydd o, gwybodaeth feddygol, iechyd a gwyddoniaeth.  Edrych ar gyfranogiad grwpiau amrywiol wrth bennu agenda, dehongli a rhannu'r wybodaeth hon.

* Lleol i Fyd-eang: Camau gweithredu ar lefel gymunedol a sut y maent yn cysylltu gyda heriau byd-eang ym maes iechyd pobl a'r amgylchedd.

* Syniadau newydd: Camau gweithredu ar gyfer rhwydweithio amgen a meddwl yn wahanol ynglŷn a iechyd planedol.

A ydym ni wedi anghofio rhywbeth?
E-bostiwch
placeadminsupport@cardiff.ac.uk os oes gennych awgrym ar gyfer gweithdy.  

Eisiau ymuno â Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Planedol Prifysgol Caerdydd (URN)? E-bostiwch placeadminsupport@cardiff.ac.uk gyda'ch manylion cyswllt a byddwch yn cael eich ychwanegu at grŵp Microsoft Teams.