Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Prof John Harrington

Dydd Mercher, 20 October 2021
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Ychwanegu Pŵer PhD i’ch Busnes

Nid dim ond ar gyfer byd academia yw PhD! Mae’r busnesau gorau yn gwybod mai ymchwil gwych yw’r catalydd i arloesi a thwf – maen nhw’n datblygi Pŵer PhD i fynd â nhw i’r lefel nesaf.

Ymunwch gyda ni i glywed sgyrsiau gan fusnesau sydd wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr doethuriaeth gwyddorau cymdeithasol i gynyddu cynhyrchiant, gwireddu nodau strategol, ac adeiladu cefnogaeth talent a sgil yng Nghymru. Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethuriaeth ESRC Cymru yn datblygu gwyddonwyr cymdeithasol, mewn cydweithrediad â phartneriaid yn y sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd, i sicrhau rhagoriaeth busnes a mantais gystadleuol, ac mae’n un o 14 rwydwaith ymchwil tebyg ledled y DU.

Yn y Sesiwn dros Frecwast hwn, byddwch yn clywed gan Dr Charlotte Beale, Pennaeth Economeg Dŵr Cymru, a Dr Michael Evans, Swyddog Prosiectau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru ar sut mae eu sefydliadau wedi gweithio’n agos gydag ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol i greu arloesedd. Bydd Yr Athro John Harrington, Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethuriaeth ESRC Cymru, yn rhannu sut y gall eich sefydliad gymryd rhan yn y bartneriaeth a bydd yn rhoi cyfle ichi gyflwyno unrhyw gwestiynau a allai fod gennych i’n panel o arbenigwyr.

Ymunwch gyda ni ar Ddydd Mercher Hydref 20fed 2021 ar gyfer yr hyn sy’n addo bod yn sesiwn oleuedig ac addysgiadol.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education