Ewch i’r prif gynnwys

O'r Tŷ Gwydr i'r Tŷ Iâ: ffosiliau coedwig a deinosor yng nghanol llenni iâ ym Mhegwn y De

Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2022
Calendar 18:30-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

From Greenhouse to Icehouse

Bydd modd gwylio pob darlith trwy Zoom. Er nad oes angen cofrestru, gallai fod gofyn ichi roi’ch enw a’ch cyfeiriad ebost i wylio’r ddarlith (byddwn ni’n cadw’r wybodaeth honno’n gyfrinachol heb ei lledaenu o gwbl). Os gofynnir amdano, dyma’r cyfrinair ar gyfer mewngofnodi: “853119”.

Mae gan wyddonwyr daearol y fraint a’r pleser o archwilio pob rhan o’r byd, o’r pegynau i’r trofannau, o uchelfannau i ddyfnderoedd y môr a hyd yn oed y tu hwnt, wrth iddynt chwilio am y wybodaeth sy’n mynd i’r afael â heriau pwysig sy’n ymwneud â hanes y blaned.

Yn y gyfres hon, bydd arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau yn cyflwyno adroddiadau am eu hanturiaethau yn y maes, ynghyd â’u hynt, eu helynt a’u boddhad yn y labordy wrth iddynt wneud y darganfyddiadau sydd wedi trawsnewid ein gwyddoniaeth.

Mae ein Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor meysydd o ddiddordeb yn y Ddaear a gwyddorau amgylcheddol a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.

Crynodeb

Mae cyfandir yr Antarctig wedi bod dros Begwn y De ers y 100 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafwyd coedwigoedd, dinosoriaid a phengwiniaid yno dan amodau cynnes. Cafwyd coedwigoedd yn agos at Begwn y De wrth i’r hinsawdd oeri ac wrth i rewlifoedd orchuddio llawer o’r cyfandir hyd yn oed, a hynny tan tua 10 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Erbyn hyn, mae’r Antarctig oer yn ymateb i’r hinsawdd sy’n cynhesu. Beth mae'r cofnod daearegol yn ei ddweud wrthym am dirwedd yr Antarctig y gallem ei gweld yn fuan mewn byd 400 rhan fesul miliwn o ran CO2?

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Voyages of great discoveries