Ewch i’r prif gynnwys

Clwb Caligraffi Tsieineaidd

Dydd Sadwrn, 9 October 2021
Calendar 11:00-12:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Chinese Calligraphy Practice

Mae Caligraffi Tsieineaidd yn fath hynafol a phrydferth o gelf yn ogystal â ffordd o gadw’n iach. I fod yn artist neu'n arbenigwr mewn caligraffi Tsieineaidd, mae angen i chi ymarfer fesul gair, fesul strôc nes i chi gael eich trochi yn ysbryd y gweithgaredd. Fel hyn, gall ysgrifennu caligraffi Tsieineaidd ddod yn ymarfer myfyriol.

Ymunwch â ni ar y cwrs caligraffi Tsieineaidd pedair wythnos hwn lle byddwn yn eich cyflwyno i hanes caligraffi Tsieineaidd yn ogystal â'i ddefnydd modern. Dros yr wythnosau byddwch yn meithrin dealltwriaeth o'r offer a ddefnyddir ar gyfer y caligraffi, a'r strociau brwsh sylfaenol sy'n ffurfio cymeriadau Tsieineaidd. Byddwch yn dysgu mwy am sut mae cymeriadau Tsieineaidd yn cael eu llunio a sut i wahaniaethu rhwng gwahanol arddulliau ysgrifennu. Bydd pob wythnos yn cynnwys sesiwn ymarferol lle gallwch wella eich techneg, a bydd y cwrs yn arwain at greu eich gwaith arlunio neu gymeriad Tsieineaidd traddodiadol eich hun.

Bydd y cwrs pedair wythnos yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn rhwng 11am a 12.30pm, gan ddechrau ddydd Sadwrn 2 Hydref. Bydd pob dosbarth yn cael ei gynnal ar-lein drwy Zoom, ac mae angen yr offer canlynol i ymuno â'r cwrs o gartref.

* Brwsys caligraffi (ein hargymhelliad neu debyg)

* Inc caligraffi (ein hargymhelliad neu debyg)

* Papur (ein hargymhelliad neu debyg)

Mae lleoedd yn brin, felly cofrestrwch ymlaen llaw i gadw eich lle.

Rhannwch y digwyddiad hwn