Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad Blynyddol Arsyllfa Ymchwil Anffurfioldeb 2021: Normaleiddio Anffurfioldeb yn Fyd-eang

Dydd Mawrth, 22 Mehefin 2021
Calendar 12:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae anffurfioldeb yn norm byd-eang, gyda bywoliaethau a chartrefi yn y de byd-eang yn cael eu cynhyrchu'n bennaf trwy brosesau anffurfiol. Yn y gogledd byd-eang mae cynnydd yr economi gig yn dyst i normaleiddio anffurfioldeb yn fyd-eang. Ac eto, mae agweddau cynhwysol tuag at anffurfioldeb yn brin. Mae’r Arsyllfa Ymchwil Anffurfioldeb (IRO) ym Mhrifysgol Caerdydd yn dod ag ysgolheigion yn y maes pwnc cyfoes hwn ynghyd, ac yn cynnig platfform ar gyfer cael dealltwriaeth newydd o rôl anffurfioldeb heddiw, gyda’r nod o sbarduno polisïau ac arferion mwy cynhwysol.

Mae’r digwyddiad amser cinio blynyddol hwn yn arddangos ymchwil ddiweddar gan ysgolheigion IRO, a bydd o ddiddordeb i academyddion ac ymarferwyr sydd ym ymddiddori mewn daearyddiaeth, astudiaethau gwrthdaro, astudiaethau ffoaduriaid, polisïau cymdeithasol a chynllunio trefol.  Bydd cyflwyniadau byr yn ymdrin â:

Sesiwn 1

  • Anffurfioldeb mewn lleoliadau ar ôl gwrthdaro. Yr Athro Alison Brown, Prifysgol Caerdydd
  • Casgliadau trefol anffurfiol/ffurfiol. Dr Hesam Kamilipour, Prifysgol Caerdydd
  • Y ddinas anffurfiol, Colombia. Dr Lina Martínez, Universidad Icesi, Colombia
  • Rheoli strydoedd yn aneddiadau anffurfiol Indonesia. Dr Jimly Al Faraby, Prifysgol Gadjah Mada

Sesiwn 2

  • Economïau ffoaduriaid yn Addis Ababa. Dr Peter Mackie, Prifysgol Caerdydd
  • Economïau ffiniol: Masnach drawsffiniol anffurfiol i ffoaduriaid, Dr. Patricia García Amado, Prifysgol Caerdydd
  • Cadwyni cyflenwi adeiladu ac anffurfioldeb: Olrhain rhwydweithiau deunyddiau ffurfiol-anffurfiol Dr. Tom Smith, Prifysgol Caerdydd
  • Anffurfioldeb mewn cyflenwadau dŵr trefol, Dr. Adrian Healy, Prifysgol Caerdydd

gan: Grŵp Effaith Dinasoedd Cynhwysol yr Arsyllfa Ymchwil Anffurfioldeb ac yn gysylltiedig â'r Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Economaidd a Gwleidyddol.

Sylwch, er mwyn sicrhau diogelwch y digwyddiad bydd angen i chi gofrestru er mwyn derbyn manylion mewngofnodi'r digwyddiad. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad ar Zoom.

Mae angen cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn

Rhannwch y digwyddiad hwn