Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd Ysgol Fusnes – Dosbarth Meistr Rhyngweithiol i Arddangos Pŵer Kata

Dydd Mawrth, 8 Mehefin 2021
Calendar 10:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Puzzle pieces – masterclass

Toyota Kata @University

Gyda Tilo Schwarz a Graham Canning (dolen i'w proffiliau)

Dydd Mawrth 8 Mehefin - 10am-1pm

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn rhagflas rad ac am ddim lle gallwch brofi pŵer Toyota Kata.

Lean, Agile, Service Design, Systems Thinking... mae yna lawer o wahanol fethodolegau gwella gwahanol, gwych ar gael, ond fel y gŵyr unrhyw un sy'n ceisio arwain y mentrau hyn mewn sefydliadau, nid yw cael pawb i ymuno mor hawdd ag y byddech chi'n meddwl. Yr hyn sydd ei angen yn aml yw rhywbeth dyfnach na phecyn cymorth neu gynllun prosiect, mae angen i ni fynd i'r afael â sut mae gweithwyr yn delio â newid yn feddyliol. Mae angen i ni eu helpu i ddeall sut mae adnabod problemau a sut gallan nhw ddelio â nhw'n rhagweithiol. Dyma lle mae Toyota Kata o gymorth. Mae'n mynd i'r afael yn uniongyrchol ag elfen 'ymddygiad' a 'phobl' System Gynhyrchu Toyota i ddatrys y broblem o helpu gweithwyr i brynu i mewn i'r ffaith bod angen newid a bod modd iddyn nhw, yn bersonol, wneud rhywbeth ynghylch hynny.

Mae Kata yn cyfeirio at yr arferion ailadroddus y gall pobl eu gwneud i hyfforddi eu hymennydd i ymateb yn reddfol. Mae Toyota Kata yn ddull strwythuredig o helpu i symud meddylfryd pobl tuag at ddatrys problemau a sut mae ymateb yn reddfol i'r problemau hyn. Mae bellach yn cael ei ymarfer mewn llawer o sectorau fel fframwaith Hyfforddi 'annibynnol', neu’n cael ei ddefnyddio i gefnogi methodolegau fel Agile (wrth ddatblygu meddalwedd).

Trosolwg o’r Sesiwn

  • Cyflwyniad i gefndir a theori Toyota Kata - y cysylltiad â Niwrowyddoniaeth - sut mae ein hymennydd yn 'dysgu' arferion newydd
  • Cymryd rhan mewn Efelychiad Kata i arddangos pŵer y dechneg -Gweithgaredd ar-lein yn seiliedig ar ymarfer tîm strwythuredig 'Kata yn yr Ystafell Ddosbarth' - yn gyfangwbl ar-lein ac yn rhyngweithiol
  • Cipolwg ar y Kata Gwella a’r Kata Hyfforddi, a phethau i’w hystyried wrth eu cyflwyno i’ch sefydliad.

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn hon i ddarganfod mwy am y dull a'i fanteision.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education